Grŵp Anabledd y Fro – 24 Ionawr 2023

 

Os colloch chi ein galwad cyntaf i'r rhai sydd â diddordeb mewn ymuno â Rhwydwaith Anabledd Staff newydd, mae cyfle o hyd i gymryd rhan!

Anogir cydweithwyr sydd â phrofiad o anabledd, afiechyd meddwl a niwroamrywiaeth i fynd i gyfarfod arall o grŵp staff newydd ymhen ychydig wythnosau.

P’un a yw ein hanabledd yn weladwy ai peidio, p’un ai anabledd corfforol, afiechyd meddwl neu oherwydd ein bod yn niwroamrywiol ydyw, efallai y bydd gennym syniadau am sut y gellid gwella'r gweithle fel bod pawb yn teimlo'n gwbl gynwysedig ac yn gallu cyflawni eu potensial.

Rydym am i staff sy'n ystyried eu hunain yn bobl ag anabledd i rannu eu profiad, cynnig mewnwelediad ynghylch sut y gellid gwella'r gweithle iddynt a chreu lle diogel i gydweithwyr sydd mewn sefyllfa debyg i gael cymorth pan fydd ei angen arnynt.

Yn dilyn ôl troed Glam, rhwydwaith ar gyfer staff a chynghreiriaid LHDTC+, ac Amrywiol, sy'n cynrychioli rhai o gefndir Du, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol, bydd y grŵp newydd yn cwrdd am yr eildro ar 24 Mawrth Ionawr am 1pm yn Ystafell Bwyllgor 2 (a elwir bellach yn YSTAFELL COSMESTON) yn y Ganolfan Ddinesig.

Gofynnir i unrhyw un sydd ag anghenion mynediad gysylltu â Colin Davies trwy e-bostio codavies@valeofglamorgan.gov.uk