Staffnet+ >
Neges gan Bennaeth Adnoddau Dynol
Neges gan Bennaeth Adnoddau Dynol
Annwyl gydweithwyr,
Rydym yn gwerthfawrogi'n fawr y gallai'r streic NEU sydd ar ddod a chau ysgolion yn gysylltiedig â hynny fod â goblygiadau i staff sydd â phlant dibynnol.
O ystyried hyn, hoffem dynnu eich sylw at y cyngor a'r arweiniad canlynol os bydd ysgol neu grŵp blwyddyn plentyn i aelod staff yn cau yn ystod cyfnod y gweithredu diwydiannol.
Dylai unrhyw aelod o staff sy'n methu â dod i'r gwaith gyfeirio at y polisi. Mae hyn yn caniatáu i aelodau staff gymryd gwyliau di-dâl i ofalu am berson dibynnol. Neu, mewn cytundeb gyda'u rheolwr llinell, gall yr aelod staff drefnu gwyliau blynyddol (yn y ffordd arferol) neu ofyn am gytundeb i newid patrymau shifft neu oriau gwaith dros dro. Dylai'r rhai sydd â'r opsiwn o weithio gartref gytuno ymlaen llaw gyda'u rheolwr llinell sut y bydd ymrwymiadau gwaith yn cael eu trin a'r tasgau y dylid eu cyflawni ar y diwrnod hwnnw. Gallai hyn olygu gweithio y tu allan i'r oriau craidd (7am – 7pm) ar gyfer y cyfnod dros dro hwn, fodd bynnag dylid rhoi ystyriaeth lawn i anghenion darparu’r gwasanaeth ac anghenion ein dinasyddion wrth wneud penderfyniadau o'r fath.
Er ein bod yn gwerthfawrogi y bydd y cyfnod hwn yn anodd i'n staff, disgwylir y bydd aelodau staff yn gwneud pob ymdrech i drefnu gofal plant yn ystod y cyfnod hwn a bod y gwasanaeth a ddarperir i'n dinasyddion yn parhau.
Gobeithiwn y bydd dull o'r fath yn caniatáu mwy o hyblygrwydd i'n haelodau staff, tra'n cefnogi anghenion adrannau a'r angen parhaus i gefnogi ein hysgolion.
Dyddiadau'r Streic: Chwefror 1, 14, Mawrth 15 a 16
Cofion cynnes,
Tracy Dickinson