Staffnet+ >
Datblygu Strategaeth Ddigidol a Map Newydd
Datblygu Strategaeth Ddigidol a Map Newydd
Mae'r Cyngor wedi dechrau ar y gwaith o ddatblygu Strategaeth Ddigidol a Map newydd i'r sefydliad.
25 Ionawr, 2023
Mae ein Cynllun Cyflawni Blynyddol yn nodi 'Gwydnwch Sefydliadol' fel un o dair her allweddol ar gyfer y deuddeg mis nesaf ac i'r tymor canolig. Mae hyn yn golygu sicrhau fel sefydliad ein bod yn addas at y diben ac mewn sefyllfa i allu cyflawni’r weledigaeth yn ein Cynllun Corfforaethol o greu Cymunedau Cryf â Dyfodol Disglair.
Mae'r Strategaeth Ddigidol yn rhan allweddol o hynny ac rydym yn cynnal prosiect, gyda chefnogaeth Socitm, i ddatblygu Strategaeth Ddigidol a Map newydd.
Y camau cyntaf i'n harwain drwy'r prosiect hwnnw fydd ystyried:
- Beth mae digidol yn ei olygu i ni?
- Beth all digidol ei wneud?
A dyma beth rydyn ni'n gobeithio ei gyflawni:

Rydym ond yn dechrau ar ein cam darganfod a bydd y camau nesaf fel yr amlinellir yn y ffeithlun yn dilyn oddi yno. Rydym yn bwriadu cwblhau'r prosiect erbyn mis Ebrill.
Dywedodd Tom Bowring, Cyfarwyddwr Adnoddau Corfforaethol, "Mae'r strategaeth ddigidol yn rhan annatod o wneud yn siŵr ein bod ni fel sefydliad yn gallu parhau i esblygu a darparu gwasanaethau sy'n barod at y dyfodol. Mae hyn yn golygu adolygu prosesau ac ymarferion a sicrhau bod y gwasanaethau rydyn ni'n eu darparu a'r ffordd rydyn ni'n gweithio yn gynaliadwy.
"Byddwn yn parhau i rannu'r wybodaeth ddiweddaraf wrth i'r prosiect hwn fynd rhagddo. Byddwn yn cynnwys nifer o gydweithwyr yn y broses ac roedd hi’n braf cwrdd â chydweithwyr TGCh yr wythnos hon i ddechrau’r prosiect. Yn y cyfamser, os oes gennych unrhyw syniadau ar gyfer sut y gellid gwella eich gwasanaeth neu'ch proses gan ddefnyddio dull digidol neu fel arall, rydym bob amser yn hapus i dderbyn yr awgrymiadau hyn."
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, neu awgrymiadau, cysylltwch â digital@valeofglamorgan.gov.uk.