Elliot Pottinger

Cyngor yn cofio Elliot Pottinger

Gyda thristwch mawr dysgom am farwolaeth Elliot Pottinger, Swyddog Byw'n Iach y Cyngor (Chwaraeon ac Ymarfer Corff), dros y penwythnos yn dilyn brwydr â Chanser.

Gwnaeth Elliot wahaniaeth gwirioneddol yn ei amser gyda'r Cyngor yn gweithredu'r cynllun Tocyn Euraidd sydd wedi galluogi pobl hŷn i fwynhau nifer o weithgareddau corfforol newydd.  Cymaint fu'r effaith y mae'r cynllun wedi ei gopïo gan awdurdodau lleol eraill yn ystod y misoedd diwethaf.

Cafodd Elliot ei enwebu ar gyfer y wobr Seren Newydd yng ngwobrau staff Bro Morgannwg yn ddiweddar, ac roedd yn berson hyfryd y bydd colled fawr ar ei ôl i’w gydweithwyr yn yr adran Datblygu Chwaraeon.  Mae ein meddyliau gyda'i bartner Jen a gweddill ei deulu.