Cydweithwyr yn y Cyngor yn dod i’r brig yng Ngwobrau Gofal Cymru.

Bu cydweithwyr o’r Is-adran Rheoli Adnoddau a Diogelu yn dathlu ar ôl ennill gwobr am eu gwaith yn ystod pandemig Covid-19 yng Ngwobrau Gofal Cymru fis Hydref diwethaf.

Covid Award

Cafodd seremoni Gwobrau Gofal Cymru ei threfnu gan Fforwm Gofal Cymru ac fe'i cynhaliwyd yn Neuadd y Ddinas yng Nghaerdydd.

Cyflwynwyd y wobr 'Arwyr Covid - Gwobr Awdurdod Lleol Gorau sy’n Rhoi Cymorth i Gartrefi Gofal' i’r tîm er mwyn cydnabod y gwaith a wnaed i gefnogi darparwyr cartrefi gofal yn ystod y pandemig.

Cafodd yr enillwyr eu pleidleisio gan ddarparwyr cartrefi gofal ledled Cymru.

I wneud y wobr yn fwy arbennig fyth, cafodd y tîm wybod mai dyma'r wobr gyntaf a roddwyd i awdurdod lleol gan Fforwm Gofal Cymru

Daeth y wobr fel syndod i'r tîm nad oedd hyd yn oed yn ymwybodol eu bod wedi cael eu henwebu nes cyrraedd y digwyddiad!

Fe ddathlodd y tîm drwy gynnal digwyddiad yn Swyddfeydd y Doc fis Rhagfyr y llynedd.

Rhwng mis Mawrth 2020 a Hydref 2022, bu'r Staff y Gwasanaethau Cymdeithasol yn gweithio'n ddiflino i sicrhau bod gan ddarparwyr y gefnogaeth ariannol ac ymarferol oedd ei hangen i barhau i weithredu yn ystod y cyfnod anodd hwn. 

Gwnaed dros £13m o daliadau drwy'r tîm i ddarparwyr a staff gofal drwy amrywiaeth o fentrau megis Grant Caledi Llywodraeth Cymru, taliadau i staff gofal, y cynllun Taliad Chwyddo Salwch Statudol a llawer mwy.  

Hyd yma, mae'r Tîm CDP wedi dosbarthu dros 13 miliwn o eitemau o CDP a phrofion llif unffodd i gartrefi gofal, asiantaethau cartref, ysgolion a staff gofal cymdeithasol. 

Mae Fforwm Gofal Cymru yn cynrychioli dros 450 o gartrefi gofal, cartrefi nyrsio a darparwyr iechyd a gofal cymdeithasol annibynnol eraill ledled Cymru.