Age Friendly Vale Logo

Cydweithio tuag at Fro sy'n Dda i Bobl Hŷn

Gan weithio ochr yn ochr â Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Bro Morgannwg, mae'r Cyngor wedi ymrwymo i gefnogi pobl o bob oed i fyw ac i heneiddio'n dda ar draws y sir.

Mae gan Fro Morgannwg boblogaeth hŷn fawr y rhagwelir y bydd yn parhau i dyfu yn y blynyddoedd i ddod.

Erbyn 2030 mae disgwyl i nifer y bobl dros 65 oed sy'n byw yn y Fro gynyddu 22%, a rhagwelir mai dyma fydd yr ail gynnydd mwyaf yn unrhyw sir yng Nghymru. Hefyd mae disgwyl i nifer y bobl dros 80 oed gynyddu 39%.

Loveluck-Edwards, Belinda

Ar hyn o bryd mae'r Cyngor yn gweithio ar gais, ar ran y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus, sy'n ymrwymo'n ffurfiol i wneud y Fro yn lle gwell i bobl hŷn, gan ddefnyddio Canllaw Sefydliad Iechyd y Byd ar Ddinasoedd Byd-eang sy’n Dda i Bobl Hŷn, fel model. 

Er mwyn cefnogi gwaith y Cyngor a sicrhau bod anghenion a safbwyntiau ein poblogaeth hŷn yn cael eu hystyried mewn penderfyniadau gwleidyddol, y llynedd penodwyd y Cynghorydd Belinda Loveluck-Edwards yn bencampwr Pobl Hŷn y Cyngor.

Dywedodd Belinda:  "Wrth i'n poblogaeth heneiddio, mae'n hanfodol rhoi llais i bobl hŷn fel bod ein gwasanaethau a'n strategaethau ar gyfer y dyfodol yn addas i’r diben wrth i ni wneud popeth o fewn ein gallu i roi urddas i bobl wrth iddynt dyfu'n hen yn Y Fro."

Yn fwy diweddar, mae'r Cyngor wedi defnyddio cyllid gan Lywodraeth Cymru i benodi Siân Clemett-Davies yn Swyddog y Fro sy’n Dda i Bobl Hŷn.

Mae Siân wedi bod yn ennyn diddordeb ac yn cynnwys pobl hŷn yn y broses o ddod yn gymuned sy’n well i bobl hŷn, yn ogystal â chefnogi  Fforwm Strategaeth 50+ hirhoedlog y Fro  drwy ddatblygu calendr prysur o ddigwyddiadau ymgysylltu ar gyfer 2023.

Siân Clemett-Davies

Wedi'i sefydlu yn 2003, dathlodd y fforwm, sydd bellach â dros 280 o aelodau, ei 20fed pen-blwydd eleni.

Meddai Cadeirydd y Grŵp Gweithredol, Anne-Marie Little:  "Mae'r Fforwm yn rhoi llais pwerus i anghenion pobl hŷn wrth lunio eu cymunedau er budd yr holl ddinasyddion yn lleol ac yn genedlaethol.  Mae croeso i bawb fynychu ein digwyddiadau 'Dweud eich Dweud' ac rydym bob amser yn chwilio am fwy o aelodau". 

Os ydych yn cynnal digwyddiad neu weithgaredd ymgysylltu a / neu os hoffech gael cefnogaeth ein cynrychiolwyr Bro sy’n Dda i Bobl Hŷn, cynrychiolwyr Pobl Hŷn, cysylltwch â Siân ar 01446 700111 neu e-bostiwch snclemett-davies@valeofglamorgan.gov.uk.