Wythnos Cydraddoldeb Hiliol – Diwrnod 3

 

Race Equality Week

Diolch am ddychwelyd ar ôl diwrnod 1 a diwrnod 2!

Heddiw mae eich her 5 munud yn cynnwys cwestiwn Agor eich Llygaid adfyfyriol, fideo byr ac ymrwymiad i weithredu.

Mae Diwrnod 3 yn ymwneud ag enwau.

Ydych chi'n ynganu enw pawb yn gywir? A beth os nad ydych chi?

  • Cwestiwn

    Os ydych chi’n cwrdd â rhywun sydd ag enw sy'n anghyfarwydd i chi, ydych chi’n?

    -        Osgoi dweud eu henw?

    -        Rhoi cynnig arni a gobeithio am y gorau?

    -        Rhoi cynnig arni a gofyn ydych chi wedi ei ynganu'n gywir

    -        Ei holi sut i ddweud yr enw gyntaf?

    -        Byrhau’r enw i'w gwneud hi'n haws ei ynganu?

     

    "Enw person yw'r cysylltiad mwyaf â'i hunaniaeth a'i unigolrwydd ei hun. Efallai y byddai rhai yn dweud mai dyma'r gair pwysicaf yn y byd i'r person hwnnw... Mae'n arwydd o gwrteisi... Pan fo rhywun yn cofio ein henw ar ôl cwrdd â ni, rydym yn teimlo ein bod yn cael ein parchu a’n bod yn bwysig."

     

    Joyce E. A. Russell yn seicolegydd sefydliadol ac arbenigwr ar arweinyddiaeth

    Mewn arolwg barn gan Race Equality Matters dywedodd 73% o'r ymatebwyr o fwy na 100 o sefydliadau fod eu henwau wedi cael eu camynganu. Dywedon nhw wrthon ni fod hyn yn gwneud iddyn nhw deimlo "nad oedden nhw'n cael eu gwerthfawrogi” neu'n “ddibwys", bod "diffyg parch" atyn nhw ac "nad oedden nhw'n perthyn".

     

  • Fideo 

    Beth os ydyn ni’n cael enw rhywun yn anghywir? 

     

     

    Gwyliwch y fideo hwn i ddeall yr effaith: 

     

     

    Mae 88% yn credu y bydd FyEnwYw Race Equality Matters, sy'n galw arnom i ofyn i bobl sut i ddweud eu henw a sillafu enwau pobl yn ffonetig, yn mynd i'r afael ag anghydraddoldeb hil.

  • Cam Gweithredu

    Beth gallech chi ei wneud i sicrhau eich bod yn cael enw pawb yn iawn? Syniadau:

     

    • Arsylwi ac ymarfer. Gwnewch ymdrech i glywed sut mae rhywun yn ynganu ei enw i bobl eraill.
    • Gofynnwch iddyn nhw sut i ynganu eu henw.
    • Cadarnhewch.  Os ydych chi'n cwrdd â rhywun eto ar ôl ychydig, mae'n iawn dweud "atgoffwch fi o'ch enw" neu "atgoffwch fi sut i ynganu eich enw".
    • Peidiwch â bod yn drahaus neu'n wamal. Peidiwch â dweud "Wna i byth cofio - ga i’ch galw chi'n rhywbeth arall?"
    • Ymrwymwch i ychwanegu sillafiad ffonetig eich enw at eich e-bost ac anogwch eich cydweithwyr i wneud yr un peth. I gael rhagor o wybodaeth ewch i: 
    • https://www.raceequalitymatters.com/my-name-is/

     

     

     

     

    Pa gamau fyddwch chi'n eu rhoi ar waith?

  • #FyEnwYw

    Mae #FyEnwYw yn ymgyrch sy'n annog defnyddio sillafiadau ffonetig ar lofnodion e-bost a bathodynnau enw.

     

    Gall hyn sicrhau bod pawb yn ynganu enwau pobl yn gywir, sy'n gallu helpu i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb hil.

    Dyma’r hyn y gallwch chi ei wneud

    • Ychwanegwch ynganiad ffonetig eich enw i'ch llofnod e-bost - dilynwch y cyfarwyddiadau ac ychwanegwch #FyEnwYw a’r sillafiad ffonetig. Gallwch weled eich enw ffonetig drwy ddefnyddio teclyn digidol #FyEnwYw.

     

     

     

  • Adnoddau Ychwanegol

    1. https://hbr.org/2020/01/if-you-dont-know-how-to-say-someones-name-just-ask

    2. https://www.huffingtonpost.co.uk/entry/dont-know-how-to-pronouce-name-what-not-tosay_l_61f96f24e4b02de5f51edd25

     

    Fideos:

    1. https://www.raceequalitymatters.com/why-you-should-get-involved-in-mynameis/

    2. https://www.raceequalitymatters.com/inein-tfw/

     

    3.https://www.howtopronounce.com/