Staffnet+ >
Yr Wythnos Gyda Rob 24 Chwefror 2023
Yr Wythnos Gyda Rob
24 Chwefror 2023
Annwyl gydweithwyr,
Gobeithio eich bod chi gyd yn iawn ar ddiwedd wythnos brysur arall.

Bythefnos yn ôl, defnyddiais fy neges i bwysleisio pwysigrwydd y sesiynau Croeso i'r Fro ar gyfer dechreuwyr newydd. Hoffwn ddechrau'r diweddariad hwn trwy groesawu staff newydd i'r Cyngor unwaith eto, rhywbeth rwy'n falch y gellir ei wneud eto wyneb yn wyneb bellach gan fod cyfyngiadau Covid wedi llacio.
Cynhelir sesiynau Croeso i'r Fro yn rheolaidd ac maent yn rhoi cyfle i mi gyflwyno fy hun yn iawn, a'r Cyngor, mewn lleoliad mwy cymdeithasol.
Mae'r cyfarfodydd cychwynnol hyn yn bwysig. Nid yn unig maen nhw'n helpu i greu cysylltiadau personol rhwng pobl, sy'n hanfodol i weithrediad effeithiol y sefydliad, maen nhw hefyd yn chwalu'r rhwystrau sy'n gallu bodoli weithiau rhwng staff ac uwch reolwyr. Mwynheais y cyfarfod mwyaf diweddar yn fawr gan ei fod yn cynnig cyfle i osod rhai o werthoedd allweddol yr Awdurdod ger bron a phwysleisio pa mor uchel ei barch yw pob un gweithiwr.
Wrth siarad am werthoedd, ymunodd llawer ohonom â phobl o amgylch gwledydd Prydain yn gynharach heddiw wrth oedi am funud o dawelwch i nodi blwyddyn o ryfel yn Wcráin. Roeddwn yn falch o fod yng nghwmni'r Arweinydd, y Maer a chydweithwyr eraill y tu allan i'r swyddfeydd Dinesig ar gyfer yr achlysur.

Mae'r 12 mis diwethaf wedi bod yn hunllef fyw i bobl y wlad honno, tra bod y gweddill ohonom wedi syllu mewn arswyd ar ddelweddau teledu o'r ymladd.
Mae llawer wedi colli eu bywydau, gweld perthnasau'n cael eu lladd, wedi cael eu gorfodi i adael eu cartrefi a dioddef y trawma annirnad sy'n dod o wrthdaro mor erchyll.
Fel sefydliadau eraill ar draws y byd, addawodd y Cyngor ei gefnogaeth i Wcráin o'r cychwyn cyntaf ac rydym yn parhau'n gadarn yn erbyn yr hyn sy'n ymosodiadiad anghyfiawn a diangen.
Yn fy negeseuon wythnosol, rwy'n siarad yn rheolaidd am ymrwymiad y Cyngor i egwyddorion goddefgarwch, derbyn a chynwysoldeb.
Rydw i a chydweithwyr ar draws y Cyngor yn credu'n gryf mewn trin pobl yn gyfartal, pwy bynnag ydyn nhw, ond mae’n hawdd dweud hynny - mae'n hanfodol bwysig ein bod ni hefyd yn gweithredu ar y delfrydau hyn.
I'r perwyl hwnnw, mae cydweithwyr mewn amrywiaeth o adrannau wedi bod yn gweithio'n galed dros y flwyddyn ddiwethaf er mwyn helpu'r rhai sy'n ffoi o'r rhyfel yn Wcráin.
Canfuwyd llety dros dro i nifer fawr neu eu gosod gyda gwesteiwyr, cymaint fu'r tosturi a'r empathi a ddangoswyd gan drigolion y Fro. Mae amrywiaeth o gefnogaeth arall hefyd wedi'i roi, o sesiynau gwybodaeth i gyfleoedd gwaith, fel bod pobl sydd wedi dioddef mor ddifrifol yn gallu dechrau ailadeiladu eu bywydau.
Hoffwn ddiolch i aelodau y tîmau Tai, Gwasanaethau Cymdeithasol, Addysg a llu o feysydd eraill am eu hymdrechion yn hyn o beth - rwy'n siŵr eu bod yn cael eu gwerthfawrogi'n fwy nag y gwyddoch chi.
Mae'n bwysig hefyd sicrhau pobl ein bod, fel sefydliad, yn ymrwymedig iawn i'r gwaith hwn.
Bydd y Cyngor yn parhau i gynnig cymorth i bobl mewn angen, cyhyd â bod ei angen, o ble bynnag y dônt, a dylem i gyd fod yn falch iawn o'r ffaith honno.
Byddwn yn tynnu ar falchder hefyd Ddydd Mercher pan fyddwn ni'n nodi Dydd Gŵyl Dewi.

I ddathlu popeth Cymraeg, bydd digwyddiad arbennig yn cael ei gynnal yn Ystafell Cosmeston y Swyddfa Ddinesig, a elwid gynt yn Ystafell Bwyllgor 2.
Rhwng 9am a hanner dydd, bydd cyfle i gwrdd â phobl, mwynhau pice ar y maen a hyd yn oed ymarfer siarad yr iaith. Byddaf yn ceisio fy ngorau i alw heibio ac yn gobeithio gweld cydweithwyr yno.
Bydd Cydlynydd Cymraeg Gwaith, Sarian Thomas Jones, a Swyddog y Gymraeg, Hannah Elyn, hefyd yn y dderbynfa o 1:30 gyda gwybodaeth am gyrsiau a digwyddiadau Cymraeg.
Bydd plant o ysgol leol yn perfformio ambell i eitem gerddorol draddodiadol, y ffordd berffaith i anrhydeddu Gwlad y Gân! Diolch i bawb sydd wedi bod yn trefnu’r digwyddiadau.
Dangoswyd ymhellach ein hymrwymiad i drigolion sy'n agored i niwed ac angen cefnogaeth yr wythnos hon pan ymdrechodd cydweithwyr yn ein Tîm Gofal Cymdeithasol eu gorau glas i osgoi argyfwng. Caeodd cartref gofal preswyl bach preifat, cyn y gellid rhoi cynlluniau ar waith i sicrhau bod preswylwyr yn cael eu rhoi mewn lleoliad priodol. Cymerwyd camau fel y llwyddwyd i letya preswylwyr yn y cartref cyn iddynt gael eu symud i leoliadau arfaethedig. Heddiw, rwy'n falch hefyd o ddweud bod pob preswylydd wedi symud fel y cynlluniwyd yn ystod yr wythnos.
Mae Suzanne Clifton wedi rhannu gyda mi pa mor dda mae'r tîm ar draws yr adrannau Oedolion a Rheoli Adnoddau a Diogelu wedi gweithio i hwyluso'r trefniadau er mwyn sicrhau gofal a chefnogaeth i'r preswylwyr hyn. Meddai Suzanne: "Dylid canmol yn arbennig Gaynor Jones a Natalie Eddins am ysgwyddo'r rôl y byddai Cyfarwyddwyr y cartref fel rheol wedi'i chyflawni. Fe wnaethon nhw sicrhau bod yna gyfathrebu gyda staff y cartref gofal a'u bod nhw'n cael eu talu. Roedd ymroddiad Gaynor yn golygu iddi neilltuo’r amser i ymweld â'r cartref er mwyn siarad yn uniongyrchol â staff. Y gobaith yw y bydd y staff yma yn aros yn y sector gofal o ganlyniad i deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi gennym ni fel comisiynwyr."
Aeth Suzanne ymlaen i egluro: "Dim ond yn ddiweddar y cafodd Natalie ei phenodi'n Rheolwr Tîm yn y maes hwn ac roedd yn rhaid iddi reoli'r sefyllfa o fewn pythefnos i ddechrau'r rôl. Mae hi wedi gwneud mor dda i lywio'r sefyllfa yma'n llwyddiannus. Rwy’ hefyd yn ddiolchgar i'n cydweithwyr Cyfreithiol a Chyllid am helpu i sicrhau trefniadau gofal a chymorth i'n rhai sydd fwyaf agored i niwed."
Dyma enghraifft wych o Dîm y Fro ar waith a pha mor bwysig yw ein gwasanaethau i'r rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymunedau. Mae'n dangos, pan fydd pethau'n mynd yn anodd, bod ein timau'n tynnu ynghyd hyd yn oed yn agosach er mwyn gwneud i bethau ddigwydd. Y dinesydd bob amser yw'r ffocws a'r gweithlu yn ystyriaeth allweddol, boed nhw’n allanol neu'n fewnol. Da iawn i bawb a fu’n rhan o hyn – Gwaith ardderchog. Diolch.

Mewn mannau eraill, mae uwchraddio ein system wybodaeth reoli ar fin ei gwblhau gyda chyflwyno Oracle Fusion ym mis Ebrill.
Gellir defnyddio'r platfform cwmwl newydd hwn i weld a diwygio gwybodaeth bersonol unigolyn, nodi treuliau, cyrchu slipiau cyflog a llawer mwy.
Mae ei weithredu wedi'i ohirio ers mis Tachwedd er mwyn sicrhau bod ei holl swyddogaethau ar gael ac yn gweithio'n iawn.
Bydd Oracle Fusion yn cefnogi’r ffordd rydym yn ariannu a’r modd y bydd prosesau AD yn cael eu cyflawni, gan eu gwneud yn fwy hyblyg fel y gallwn ddarparu profiad hyd yn oed yn well i drigolion, staff a chyflenwyr.
Gan fod y system newydd wedi ei seilio ar y cwmwl, gall staff fewngofnodi ar ddyfeisiau gwaith a dyfeisiau personol gydag un set o fanylion, sy'n golygu nad oes angen cofio sawl cyfrinair.
Yn ystod yr wythnosau nesaf, fe welwch nifer o eitemau newyddion Staffnet+ yn tynnu sylw at rai o nodweddion pwysig Oracle Fusion yn ogystal â hyfforddiant ar sut i ddefnyddio'r system.
Bydd gwybodaeth yn cael ei hychwanegu at yr Oracle Hub wrth i ni agosáu at y dyddiad lansio tra bod modd cyflwyno mwy o gwestiynau am y platfform drwy e-bost.
Dwi'n gwybod bod llawer o waith caled wedi cael ei wneud gan James Rees a'i dîm i gyrraedd y cam hwn, ac rwy'n ddiolchgar iawn iddynt am hynny.

Yn olaf, gyda chymaint yn digwydd, mae'n hawdd anwybyddu'r angen i bob un ohonom ofalu amdanon ni'n hunain a'n gilydd.
Roedd yn wych clywed, unwaith eto, am yr holl waith cadarnhaol sy'n cael ei drefnu gan ein Hyrwyddwyr Lles.
Cefais gyfle i ddal fyny gyda rhai o'm cydweithwyr o'r Tîm Etholiadau yn gynharach yn yr wythnos, pan oedd Rachel a Hayley ar dân i ddweud wrthyf pa mor bositif oedd y digwyddiad plannu coed ym Mharc Gwledig Cosmeston Ddydd Gwener diwethaf.
Cymerodd y Tîm Etholiadau cyfan ran yn hwn gyda chydweithwyr eraill ar draws y sefydliad. Plannwyd 170 o goed ifanc – yn dda ar gyfer ein hymrwymiad i leihau carbon ac yn ardderchog ar gyfer iechyd meddwl a lles. Da iawn bawb.
Diolch i chi hefyd am eich ymdrechion yr wythnos hon – cânt eu gwerthfawrogi'n fawr bob amser.
Gobeithio y cewch benwythnos dymunol.
Diolch yn fawr iawn,
Rob.