Staffnet+ >
Yr Wythnos Gyda Rob 17 Chwefror 2023
Yr Wythnos Gyda Rob
17 Chwefror 2023
Annwyl gydweithwyr,

Un o'r meysydd gwaith yr wyf fwyaf balch ohono yw’r camau breision rydym wedi'u cymryd yn ystod y blynyddoedd diwethaf i fod yn Gyngor, ac yn gyflogwr, sy'n sicrhau cynwysoldeb, amrywiaeth, a chydraddoldeb sy'n rhedeg drwy bopeth a wnawn. Rwy'n falch o bopeth rydyn ni'n ei wneud i ddathlu'r bobl sy'n rhan o'n Cyngor ac felly rwy'n falch iawn o allu rhannu bod y Fro yn cynnal digwyddiad i ddathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod ar 8 Mawrth.
Mae DRhM yn ddiwrnod rhyngwladol sy’n dathlu llwyddiant cymdeithasol, economaidd, a diwylliannol menywod. Mae’r diwrnod hefyd yn alwad i gyflymu ymgeision at gydraddoldeb i fenywod. Y thema eleni yw #EmbraceEquity a dyna fydd ein digwyddiad ni’n ei wneud. Rydym yn falch iawn y bydd nifer o fenywod llwyddiannus yn siarad yn y digwyddiad, gan gynnwys Heather Stevens CBE, Cadeirydd Ymddiriedolwyr y Waterloo Foundation, a Kellie Beirne, Cyfarwyddwr Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd. Mae cost lawn y digwyddiad yn cael ei thalu gan ein noddwyr hael, y Waterloo Foundation, ISG, a CJCH Solicitors.
Mae nifer o lefydd yn y digwyddiad wedi'u cadw ar gyfer menywod sy'n gweithio i'r Cyngor ac os hoffech chi ddod, anfonwch e-bost at Leader@valeofglamorgan.gov.uk. Mae manylion llawn y digwyddiad bellach ar StaffNet+.
Ers cael ei ailagor gan y Cyngor yn 2021 mae'r Pafiliwn unwaith eto yn lleoliad sydd wrth galon y gymuned. Tanlinellwyd hyn yr wythnos hon gyda lansiad preswylfa blwyddyn o hyd gan Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.
Soniais yn gyflym yr wythnos diwethaf y bydd y peilot yn gweld y coleg yn cynnal sesiynau cerddoriaeth rhieni a phlant bach, yn sefydlu ensemble bach yn y pafiliwn ac yn rhoi cyngherddau i'r gymuned leol. Mae CBCDC wedi meithrin enw da rhyngwladol fel canolfan o ragoriaeth artistig, gan helpu oedolion ifanc i fireinio eu sgiliau ar draws y celfyddydau perfformio a diwydiannau cysylltiedig. Mae eu presenoldeb yn y Pafiliwn yn dod yn sgil yr Ŵyl Gerddoriaeth Siambr lwyddiannus a gynhaliwyd y llynedd. Canmolodd cyfarwyddwyr yr ŵyl weledigaeth y Cyngor ar gyfer y lleoliad gan argymell ein tîm i'r coleg. Mae'r breswylfa ddilynol yn dangos y parch y mae'r lleoliad wedi’i feithrin, a hoffwn gydnabod gwaith caled Phil Southard a gweddill y tîm wrth ddod â'r bartneriaeth hon at ei gilydd.

Mae cefnogi plant, pobl ifanc, a'u teuluoedd yn rhan hanfodol o'n gwaith. Roedd yn wych gweld y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt, yn ymweld â'n tîm Dechrau'n Deg ddydd Llun i weld y gwaith gwych sy'n cael ei wneud drwy’r sesiynau Nibble & Natter. Yn y sesiynau hyn mae ein tîm Dechrau'n Deg amlasiantaethol yn gweithio gyda'i gilydd i ddangos i deuluoedd sut i wella iaith a chyfathrebu drwy arferion bob dydd. Mae'r adborth gan y rhai sy'n cymryd rhan bob amser yn gadarnhaol iawn a hoffwn ddiolch i Anna Pitcairn-Knowles, Lowrhi Thomas, Abi John a Claire Gamble am wneud hyn yn llwyddiant, sydd bellach yn cael ei gydnabod gan Lywodraeth Cymru. Gallwch weld Rheolwr Dechrau'n Deg, Kathryn Clarke yn siarad am effaith y gwaith ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol.
Daeth enghraifft wych arall o'r maes gwaith hwn i’m sylw yr wythnos hon. Ar 10 Chwefror cynhaliodd y Tîm Cymunedau am Waith ddigwyddiad i arddangos popeth sydd ar gael i bobl ifanc o ran cyflogaeth, addysg, gwirfoddoli a chymorth iechyd a lles drwy'r Cyngor a'n partneriaid. Daeth 51 o sefydliadau gwahanol i Ganolfan Gelfyddydau’r Memo ar gyfer y digwyddiad, a oedd yn cynnwys sesiynau cyflwyno gan Goleg Caerdydd a'r Fro yn ogystal â gweithdai a ddarparwyd gan gynhyrchwyr teledu a ffilm a Sefydliad Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd. Daeth bron i 300 o bobl ifanc i'r digwyddiad ac rwy'n siŵr y byddant wedi gadael yn fwy ymwybodol o'u hopsiynau ac mewn sefyllfa well i ddewis y llwybr cywir iddyn nhw. Diolch yn fawr i'r tîm Cymunedau am Waith cyfan a weithiodd yn galed i sicrhau bod y digwyddiad yn rhedeg yn llyfn, ac yn arbennig i Angelina Patrick a helpodd i drefnu'r digwyddiad a sicrhau bod cyflogwyr yn bresennol.
Nodyn i'ch atgoffa'n gyflym ein bod yn agosáu at y dyddiad cau ar gyfer y Cynllun Prynu Gwyliau Blynyddol. Mae’r cynllun yn cynnig cyfle i staff brynu naill ai un neu ddwy wythnos ychwanegol o wyliau blynyddol (pro-rata i'r rhai sy'n gweithio'n rhan amser). Ailagorodd ceisiadau ar ddechrau'r flwyddyn a'r dyddiad cau yw Dydd Gwener 3 Mawrth.

Yn olaf, llongyfarchiadau i Naomi Meredith a fydd yn cynrychioli'r Cyngor ym mhalas Buckingham ym mis Mai. Bob blwyddyn mae'r Cyngor yn anfon cynrychiolydd i'r Royal Garden Party. Mae’r digwyddiad eleni ar gyfer y rhai sydd wedi gwneud cyfraniad arbennig drwy eu gwaith gydag oedolion ifanc, cymunedau, amrywiaeth, neu gynaliadwyedd. Tynnwyd enw Naomi allan o het a oedd yn llawn enwau eraill a enwebwyd gan yr Arweinydd a'r Dirprwy Arweinydd ddoe. Llongyfarchiadau Naomi. Gobeithio y cei di ddiwrnod i’r brenin.
Diolch fel bob amser i bawb am eu gwaith caled yr wythnos hon. Diolch yn fawr bawb.
Rob.