Staffnet+ >
Cyngor yn dathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod
Cyngor yn dathlu #IWD2023
Sylwch, mae’r cyfnod i wneud cais i ddod i'r digwyddiad bellach wedi cau, ac mae pob ymgeisydd llwyddiannus ac aflwyddiannus wedi cael gwybod.
Mae Cyngor Bro Morgannwg yn cynnal ei ddigwyddiad mwyaf erioed i nodi Diwrnod Rhyngwladol y Menywod ar 8 Mawrth ym Mhafiliwn Pier Penarth.
Mae nifer o lefydd wedi eu cadw i staff ac mae ceisiadau bellach ar agor i fenywod ar draws y sefydliad.
Beth bynnag fo’ch cefndir. Beth bynnag fo’ch rôl. Mae’r digwyddiad hwn i chi.
Mae DRhM yn ddiwrnod rhyngwladol sy’n dathlu llwyddiant cymdeithasol, economaidd, a diwylliannol menywod. Mae’r diwrnod hefyd yn alwad i gyflymu ymgeision at gydraddoldeb i fenywod.
Y thema eleni yw #EmbraceEquity. Nid dim ond rhywbeth braf i’w gael yw tegwch, mae'n hanfodol. Mae ffocws ar degwch rhwng y rhywiau yn rhan allweddol o'n gwaith i feithrin cymunedau cryf â dyfodol disglair. I wneud hyn mae'n hanfodol ein bod i gyd yn deall y gwahaniaeth rhwng tegwch a chydraddoldeb.
Nod thema ymgyrch IWD 2023 yw cael y byd i siarad am pam "nad yw cyfle cyfartal yn ddigon bellach". Bydd hyn yn cael ei ystyried yn ein digwyddiad gan gyfres o siaradwyr, gan gynnwys Heather Stevens CBE, Cadeirydd Ymddiriedolwyr y Waterloo Foundation, a Kellie Beirne, Cyfarwyddwr Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd.
Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Lis Burnett, fydd yn arwain y digwyddiad a bydd yn cynnwys cerddoriaeth gan fyfyrwyr o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Bydd te prynhawn hefyd yn cael ei weini.
Mae cost lawn y digwyddiad yn cael ei thalu gan ein noddwyr hael, y Waterloo Foundation, ISG, a CJCH Solicitors.