Cyfle i logi cabanau glan môr !

Beach huts at Barry IslandBob blwyddyn, rydym yn gwahodd staff a thrigolion i gystadlu am gyfle i logi un o’n cabanau glan môr am flwyddyn ar Bromenâd Dwyreiniol Ynys y Barri.

Mwynhewch olygfeydd ysblennydd dros Fae Whitmore o gysur caban glan môr!

Mae chwech o gabanau mawr a chwech o rai bach ar gael i’w llogi am y flwyddyn.

Ar gyfer tymor 2023/24, y ffi am gaban bach yw £640.30 y flwyddyn.
Ar gyfer tymor 2023/24, y ffi am gaban mawr yw £868.90 y flwyddyn.

(Mae’r holl ffioedd yn amodol ar gymeradwyaeth y Cabinet.)

Bydd y tocynnau i ennill cyfle i logi caban eleni yn cael eu tynnu yn ystod yr wythnos yn dechrau ar 6 Mawrth.

Cofrestrwch eich diddordeb erbyn 3 Mawrth i gael cyfle i ennill tocyn.  

Cofrestrwch eich diddordeb am docyn cwt traeth blynyddol 2023/24

Yn sgil y galw uchel ni all y rhai sy’n llogi caban glan môr am y flwyddyn ar hyn o bryd (2022/23) wneud cais am un y tymor canlynol (2023/24).

Sylwer: Mae gwaith atgyweirio’n cael ei wneud ar Gysgodfan y Dwyrain yn ystod 2023. Mae disgwyl i'r gwaith hwn bara tua 16 wythnos o ganol mis Chwefror.

Trwy gyfnod y gwaith hwn, mae’n bosib y bydd cyfyngu ar fynediad trwy'r lloches neu bydd wedi ei addasu. Byddwch yn dal i allu cael mynediad i'r cabanau glan môr, ond efallai y bydd angen i chi ddefnyddio'r llwybr mynediad arall uwchben Cysgodfan y Dwyrain.

Bydd sgaffaldau yn eu lle yn ystod y gwaith hwn. Bydd y gwaith hefyd yn cynnwys defnyddio peiriannau, cyfarpar ac offer wedi'u pweru a fydd yn dod â mwy o sŵn i'r rhan hon o'r Promenâd.