Staffnet+ >
Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau yn dechrau heddiw
Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau yn dechrau heddiw
6 Chwefror 2023
Mae Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau (NAW) yn ddathliad blynyddol wythnos o hyd sy'n dod â busnesau a phrentisiaid ledled y wlad ynghyd i amlygu’r effaith gadarnhaol y mae prentisiaethau'n ei chael ar unigolion, busnesau a'r economi ehangach.
Mae prentisiaeth yn gynllun sy'n caniatáu i unigolyn weithio tra'n hyfforddi ar yr un pryd tuag at gymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol mewn maes gwaith perthnasol.
Y thema ar gyfer Wythnos Prentisiaethau Genedlaethol 2023 yw "Sgiliau am Oes"; sy’n adlewyrchu ar sut y gall prentisiaethau helpu unigolion i ddatblygu'r sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen ar gyfer gyrfa werth chweil a helpu busnesau i ddatblygu gweithlu talentog sydd â sgiliau sy'n barod i'r dyfodol.
Mae'r Cyngor, fel un o gyflogwyr mwyaf Bro Morgannwg, yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd prentisiaethau. Mae'r rhain yn amrywio o rolau prentisiaeth lefel mynediad, sydd fel arfer yn gyfle cyflogaeth cyfnod penodol a fydd yn arwain at gymhwyster cydnabyddedig, i uwchsgilio gweithwyr presennol ar wahanol gamau yn eu gyrfa.
Trwy gydol yr wythnos hon byddwn yn amlygu’r effaith gadarnhaol y mae prentisiaethau wedi'i chael ar unigolion o fewn y sefydliad ond hefyd ar gyfer y sefydliad ehangach fel cyflogwr.
Dywedodd Gemma Williams, Rheolwr Gweithredol ar gyfer Datblygu Sefydliadol, "Mae prentisiaethau yn chwarae rôl hanfodol i ni fel cyflogwr. Maen nhw'n ein helpu i oresgyn rhwystrau recriwtio, yn enwedig i bobl ifanc rhwng 16 a 24 oed. Ond hefyd, maen nhw'n darparu cyfleoedd datblygu rhagorol i'n gweithlu presennol.
"Rwy'n gobeithio trwy ddarllen yr erthyglau yr ydym yn eu rhannu'r wythnos hon y byddwch yn dysgu mwy am brentisiaethau ac yn ystyried a allai fod yn rhywbeth a fyddai o fudd i'ch tîm neu’ch gwasanaeth chi."