Dysgu Cymraeg gyda'r Fro

Ar Ddydd Gŵyl Dewi, rydym am annog holl staff Bro Morgannwg i ddefnyddio'r Gymraeg yn eu bywyd gwaith bob dydd.

Gallwch ddechrau drwy ddysgu mwy am y Gymraeg drwy'r modiwl iDev Ymwybyddiaeth o’r Gymraeg – 

iDev Welsh

Beth am roi her i chi eich hun i ddefnyddio'r Gymraeg bob dydd?

Neu wneud addewid tîm/adrannol i ddechrau a gorffen pob cyfarfod yn y Gymraeg (Bore Da/Hwyl fawr)?

Dywedwch Bore Da wrth gydweithiwr, defnyddiwch Diolch yn lle Thank you mewn e-bost a chyfarch pobl â Croeso mewn cyfarfod – mae'r geiriau hyn i gyd yn adio ac yn helpu i symud ymlaen gyda'r Gymraeg. Ac maen nhw'n gwneud i bawb sy’n eu dweud yn siaradwr Cymraeg!

Gallech gofrestru ar gyfer cwrs Cymraeg hefyd. Gallwch ddod i ddysgu mwy o'n Cydlynydd Cymraeg Gwaith a Swyddog y Gymraeg yn y dderbynfa ar 1Mawrth 2023.

Gallwch hefyd ddechrau dysgu drwy ddilyn y cyrsiau blasu byr ar-lein sydd ar gael trwy Cymraeg Gwaith. Mae'r cyrsiau rhad ac am ddim hyn yn cyflwyno geiriau ac ymadroddion bob dydd, ac mae rhai hyd yn oed wedi cael eu cynllunio'n arbennig ar gyfer gwahanol sectorau. Ewch i Cymraeg Gwaith am ragor o wybodaeth ac i gofrestru.

https://dysgucymraeg.cymru/cymraeg-gwaith/cyrsiau-cymraeg-gwaith/cyrsiau-blasu-ar-lein/