Ymunwch â'n timau Cymuned Greadigol ac Economi’r Fro yn yr Hac Cymunedol sydd ar y gweill

Hack 2

Mae timau Economi Cymuned Greadigol a'r Fro yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau hacio busnes a chymunedol am ddim.

Mae'r digwyddiadau hacio, sydd wedi'u dylunio i ddod â phobl at ei gilydd i ddatblygu syniadau newydd i fynd i'r afael â heriau cymdeithasol, gan roi cyfle i rwydweithio, cyd-ddylunio atebion newydd i broblemau a rennir a dysgu am Gronfa Ffyniant a Rennir Bro Morgannwg (CFfR).

Mae’r Cyngor wedi derbyn cyfanswm o £14m i’w fuddsoddi dros dair blynedd. Ym mis Ebrill 2022 fe gyhoeddodd Llywodraeth San Steffan y prosbectws ar gyfer y CFfR, yn amlinellu y dylid buddsoddi arian mewn cymunedau a lleoedd, gan gefnogi busnesau, a phobl a sgiliau. 

Dan arweiniad arbenigwyr o Cwmpas, bydd y sesiynau hacio yn dysgu hanfodion sefydlu menter neu brosiect cynaliadwy, gan gynnwys adeiladu ar gryfderau'r gymuned, creu syniadau newydd, gwneud cais am gyllid, creu incwm, gweithio gyda gwahanol grwpiau, a sut i roi prawf ar eich syniadau.

Hack 1

Yn ystod yr wythnosau diwethaf, mae'r tîm wedi cynnal dau ddigwyddiad hacio llwyddiannus, ac ers hynny mae'r ddau wedi cael adborth gloyw gan gyfranogwyr.

Dywedodd un o'r rhai oedd yn bresennol: "Roedd yn gyfle gwych i gwrdd â chynrychiolwyr o'r gymuned leol, i ddysgu am y gronfa ffyniant gyffredin ac i gymryd rhan mewn sbrint Agile. Fe ddysges i lawer o gymryd rhan yn yr hacathon." 

Roedd yr adborth a ddaeth i law ar ôl y digwyddiad yn wirioneddol gadarnhaol gydag un person yn dweud: "Roedd hi'n wych gweld busnesau o'r Fro a chael gwrando ar eu cynlluniau. Roedd hefyd yn gyfle gwych i rwydweithio gyda busnesau mewn meysydd gwaith tebyg." 

Yn yr Hac Cymunedol yng Nghanolfan Gelfyddydau Memo ar 15 Chwefror, gwelwyd staff o bob rhan o'r Cyngor yn cydweithio â thrigolion a sefydliadau lleol i adeiladu a chyflwyno amrywiaeth o brosiectau o gynlluniau adfywio tref a stryd fawr i atebion costau byw.

Mae'r digwyddiad yn un o nifer o ddigwyddiadau y mae aelodau o Rwydwaith Cyfranogiad Cyhoeddus y Cyngor yn eu cyflawni.  Os yw eich gwaith yn cynnwys ymgysylltu neu os ydych am wybod mwy am gymryd rhan, ymunwch â'r Rhwydwaith Cyfranogiad Cyhoeddus.  E-bost hrapa@valeofglamorgan.go.uk

Cynhelir yr Hac Cymunedol nesaf ar 02 Mawrth yng Nghlwb Criced y Fro.

Os ydych yn dymuno mynychu gallwch gael rhagor o wybodaeth a chofrestru ar-lein.