Cyngor yn Cofio Vicky Morgan

Gyda thristwch a sioc mawr y dysgon ni am farwolaeth sydyn Vicky Morgan yn gynharach yn y mis ar ôl salwch byr iawn. Vicky oedd y Cynorthwy-ydd Gweinyddol Adnoddau Llyfrgell yn Llyfrgell y Barri.
Roedd Vicky yn un o’r hoelion wyth yn y Gwasanaeth Llyfrgell; roedd hi mor wybodus a chymwynasgar, mor rhagweithiol wrth ragweld a thynnu sylw at broblemau posibl yn y dyfodol, ac mor effeithlon wrth ddelio â'r dasg wrth law. Pe bai gennych gwestiwn neu broblem, gallai Vicky eu datrys.
Yn llawer mwy na hyn wrth gwrs, roedd Vicky yn gydweithiwr gwych i weithio gyda hi ac yn ffrind i lawer yr oedd yn ei hadnabod o'i dyddiau'n gweithio yn Ysgol Bryn Hafren ac yn Tŷ Provincial. Roedd gan Vicky bersonoliaeth fywiog, agwedd gadarnhaol, ysbryd chwilfrydig a synnwyr digrifwch da i'n helpu i fynd trwy bopeth.
Bydd colled fawr ar ôl Vicky i’w theulu cariadus, ei rhieni, ei 4 merch a'i hwyrion; ynghyd â phob un ohonom yn y gwaith.
Bydd ei hangladd yn cael ei gynnal yn Amlosgfa'r Barri ddydd Gwener 3 Mawrth am hanner dydd.