Cydweithwyr yn derbyn Gwobrau Gwasanaeth Hir

Awards 6

Dros y pythefnos diwethaf, mae sawl cydweithiwr o bob rhan o wasanaethau'r Cyngor wedi derbyn gwobrau am eu gwasanaeth hir drwy fenter gorfforaethol newydd.

Gwahoddwyd y rheiny’n cyrraedd 25 a 40 mlynedd o wasanaeth yn awtomatig i sesiynau a gyflwynwyd yn y Swyddfeydd Dinesig gan y Prif Weithredwr a'r Arweinydd i anrhydeddu'r gweithwyr am eu cyfraniad gwerthfawr yn ystod eu cyfnod yn y Cyngor.

Roedd y derbynwyr o ystod eang o feysydd ac yn cynnwys swyddogion gofal cymdeithasol, labrwrs cyffredinol, glanhawyr, uwch reolwyr a mwy, gan dynnu sylw at ehangder y gwasanaethau a ddarperir gan y Cyngor.

Myfyriodd y mynychwyr ar y blynyddoedd a fu (yn enwedig gweithgareddau cymdeithasol) a chymeron nhw ran mewn cwis cerddoriaeth yn seiliedig ar y blynyddoedd y dechreuodd eu gyrfaoedd yn y Cyngor. 

Quiz 6

Tynnodd Paul Russell (Rheolwr Gweithredol Gwasanaethau’r Trysorlys) sy'n dathlu 40 mlynedd sylw at y ffaith ei fod wedi dechrau ei yrfa mewn Swyddfeydd Dinesig modern a oedd ond yn 2 oed ar y pryd.

Cawsom sgwrs gyda nifer o bobl yn y digwyddiadau, a oedd i gyd wrth eu boddau’n cael cydnabyddiaeth am y gwaith y maent wedi'i wneud yn ystod eu gyrfaoedd hir ar gyfer y Fro.

Dywedodd Elaine Edgerton, a ddathlodd 40 mlynedd o wasanaeth ym mis Mehefin 2022: "Mae’r prynhawn yma wedi bod yn hyfryd. Rwy’n adnabod rhai pobl yma, ond ddim pawb. Rwyf wedi treulio amser gyda rhai pobl yma yn y gwaith a rhai eraill yn gymdeithasol adeg y Nadolig dros y blynyddoedd.

"Pan wnes i gyrraedd 40 mlynedd o wasanaeth, cafodd darn Staffnet ei ysgrifennu a chafodd digwyddiad bach ei gynnal yn Swyddfa'r Dociau i mi. Roedd yn syrpreis mawr - Roedd yn hyfryd iawn."

Dywedodd Rheolwr Cylch Bywyd AD, Mathew James: "Mae'n bwysig cydnabod aelodau o staff sydd wedi gweithio yn y Cyngor am gyfnod sylweddol o'u gyrfa a’r gwaith caled a'r gwasanaethau y maent wedi'u darparu dros y blynyddoedd.

“Yn y gorffennol, roedd angen i staff wneud cais am y wobr hon ond erbyn hyn rydym wedi cyflwyno proses i wahodd derbynwyr y dyfodol i’r digwyddiad. Mae wedi bod yn wych clywed yr holl brofiadau o weithio yn y sefydliad hwn!"

Yn ogystal â'r ddau ddigwyddiad, mae dau aelod o'r tîm yn y GRhR wedi cyrraedd cerrig milltir anhygoel yn ddiweddar.

Mae Denise Davies a Jane Hartshorn wedi cwblhau 40 mlynedd o wasanaeth parhaus mewn llywodraeth leol yn ddiweddar, gyda’r ddau’n dechrau gweithio ar yr un diwrnod ym mis Ionawr 1983.

Cadwch lygad ar Staffnet+ dros yr wythnosau nesaf gan y byddwn yn cynnal cyfres fer o ddarnau proffil gyda rhai o'r gweithwyr sydd wedi cyrraedd y cerrig milltir hyn. 

Rhest cyfan:

Paul Everest, Nicola Spear, Sharon Lewis, Miles Punter, Rachel Evans, Keith Eveleigh, Elaine Edgerton, Lance Carver, Michael Hyett, Beverly Hopkins, Michael Loughman, Paul Russell, Christina James, Lewis Williams, Paul Hartrey, Fiona Lambert, Kathryn Clifton, Rodney James.

There are no images in the search content table for folder: 27448