Bydd Wych. Ailgylcha fe.

 

Be Mighty Recycle WelshYr wythnos diwethaf lansiodd Wrap Cymru eu Hymgyrch Bydd Wych. Ailgylcha Fe., gan annog pob un ohonom i harneisio gwir bŵer ailgylchu gwastraff bwyd.

Yng Nghymru, mae’r rhan fwyaf o wastraff bwyd sy’n cael ei ailgylchu yn cael ei droi'n ynni adnewyddadwy sy’n pweru cartrefi a chymunedau’r genedl?

Yn unol â'n hamcanion Prosiect Sero, sef targed y Cyngor o ennill statws sero-net carbon erbyn 2030, rydym yn annog ein holl staff a thrigolion i ailgylchu lle bo modd.

Yn adroddiad y llynedd, trigolion y Fro oedd ail ailgylchwyr gorau Cymru. Rydym hefyd yn un o'r ychydig awdurdodau sydd eisoes wedi rhagori ar darged Llywodraeth Cymru o gyfradd ailgylchu 70% erbyn 2024-25.

Project Zero Logo

Efallai eich bod eisoes wedi gweld hyb Prosiect Sero newydd y Cyngor. Mae'r hyb yn cynnwys rhai o'r camau y mae cydweithwyr o bob rhan o'r Cyngor yn eu cymryd i helpu i gyrraedd y nod hwn, gan gynnwys drwy wastraff a bwyd.

Ochr yn ochr â phob Cyngor yng Nghymru, rydym yn cynnig gwasanaeth casglu ailgylchu gwastraff bwyd wythnosol i'n holl drigolion. Y llynedd, cynhyrchodd y casgliadau hyn ddigon o ynni i bweru dros 10,000 o gartrefi yng Nghymru!

Mae Ailgylchu Wales wedi gwneud animeiddiad yn esbonio sut mae'r gwastraff bwyd yn cael ei droi'n ynni trwy dreulio anaerobig.

Wyddech chi…

  • Byddai 715 cadi gwastraff bwyd yn creu digon o ynni gwyrdd i oleuo lifoleuadau Stadiwm Principality ar gyfer gêm gyfan

  • Gallech gadw eich ffôn yn cael ei wefru'n llawn drwy'r penwythnos gyda dim ond dau bilyn banana

  • Byddai cadi llawn gwastraff bwyd yn cynhyrchu digon o ynni gwyrdd i wylio dwy awr o'ch hoff gyfres deledu

  • Mae Cymru yn drydydd yn y byd o ran ailgylchu

Harneisiwch bŵer llawn ailgylchu gwastraff bwyd a helpwch i gael Cymru i'r lle cyntaf drwy roi eich gwastraff bwyd yn eich cadi bwyd!

Gallwch ddod o hyd i restr lawn o sut i ailgylchu ar ein gwefan.