Staffnet+ >
Nid dim ond ar gyfer recriwtiaid newydd mae prentisiaethau
Nid dim ond ar gyfer recriwtiaid newydd mae prentisiaethau
Gall y cymwysterau a gynigir drwy gynlluniau prentisiaeth fod o fudd i'r rhai sydd ymhellach ‘mlaen yn eu gyrfa yn ogystal â'r rhai sydd newydd ddechrau
Sean Granville yw'r Rheolwr TGCh a Chymorth Data yn yr adran Dysgu a Sgiliau ac mae'n ymgymryd â gradd BSc Gwyddorau Data Cymhwysol ochr yn ochr â'i rôl.
Cawson ni sgwrs gyda Sean yn ddiweddar i ddarganfod sut mae'n dod ‘mlaen.

"Yn gyffredinol, mae astudio ochr yn ochr â’r gwaith yn iawn - lot o nosweithiau'n darllen llyfrau, papurau ymchwil a deunyddiau cwrs. Lle bo'n bosib rwy'n ceisio cadw fy mhenwythnosau'n rhydd. Mae pwyntiau pinsio’n codi ddwywaith y flwyddyn o gwmpas amser cyflwyno aseiniadau, lle mae'r llwyth gwaith yn cynyddu'n sylweddol. Mae'n gallu bod yn anodd cael y cydbwysedd yn iawn rhwng y cartref, y gwaith ac astudio yn ystod yr wythnosau hyn. Mae'n fater o gynllunio'r gwaith a cheisio bod mor effeithlon â phosib.
Gofynnom hefyd beth oedd ei gymhelliant dros ennill cymwysterau ychwanegol.
"Yn bennaf oll, roeddwn i eisiau datblygu fy sgiliau a'm galluoedd o ran gweithio gyda data strwythuredig ac anstrwythuredig. Mae gen i ddiddordeb mewn technoleg yn gyffredinol - roedd y ffaith bod dysgu peirianyddol a deallusrwydd artiffisial yn rhan o’r radd yn ei wneud yn gyfle gwych na allwn i ei golli. Rwy'n mwynhau dysgu eto, gan ennill llawer o sgiliau newydd a all fod o fudd i’m rôl bresennol, nid yn unig trwy'r sgiliau caled sy'n cael eu dysgu ond hefyd o ran gweithio ar broblemau a’u datrys."
Rhag ofn i chi golli'r erthygl ddoe, dyma drosolwg o'r cyfleoedd sydd ar gael i'r holl staff ar hyn o bryd.