Yr Wythnos Gyda Rob

15 Rhagfyr 2023

Annwyl gydweithwyr,  

Dim ond deg diwrnod sydd tan y Nadolig ac fel y dywedais yr wythnos diwethaf, hoffwn ddefnyddio llawer o neges yr wythnos hon i ddathlu llwyddiant yr ymgyrch Achos Siôn Corn eleni, a'r bobl a wnaeth y cyfan yn bosibl.  

C1V and Amy Rudman

Diolch i haelioni ein staff, cyflenwyr, trigolion, a nifer o grwpiau cymunedol, bydd ein tîm gwasanaethau cymdeithasol, yr wythnos nesaf, yn dosbarthu anrhegion i fwy na 700 o blant a phobl ifanc a fyddai heb fawr ddim neu ddim byd o gwbl i'w agor ar Ddydd Nadolig.  

Eleni, unwaith eto, rwyf wedi fy syfrdanu'n llwyr gan dosturi a charedigrwydd ein staff yn ogystal â pha mor dda mae Tîm y Fro yn dod at ei gilydd i wneud gwahaniaeth i fywydau'r rhai sy'n dibynnu arnom.  

Bydd cannoedd o staff wedi chwarae rhan yn llwyddiant yr ymgyrch eleni - o wneud cyfraniadau unigol a rhannu gwybodaeth gyda ffrindiau a theulu i helpu i bacio a threfnu anrhegion a’u cludo ar draws y Fro.  

Mae yna ambell unigolyn, fodd bynnag, a wnaeth gyfraniad rhagorol – naill ai drwy faint o arian a godwyd neu ddyfeisgarwch eu dulliau.  

Cynhaliodd staff a defnyddwyr gwasanaeth yr Hen Goleg Ffair Nadolig yn eu canolfan ddydd a gododd dros £700. Roedd staff ein cartrefi preswyl yn hynod hael gyda chartref gofal Southway yn arbennig yn gwneud cyfraniad mawr - eu bagiau anrhegion nhw hefyd oedd rhai o'r rhai cyntaf i gyrraedd.  

Arweiniodd Julia Esseen o'n tîm Dysgu a Sgiliau ymgyrch godi arian gyda Chlwb Tennis Penarth, a wnaeth y rhodd unigol fwyaf o deganau, gan gynnwys beic maint llawn a fydd yn gwneud rhywun yn hapus iawn fore Nadolig.  

Rhoddodd Claire James, yn ein tîm Cyllid, a'i merch Mercedes eu talebau Clubcard ar gyfer y flwyddyn, cyn perswadio Tesco i fatsio eu cyfraniad. Gyda defnydd clyfar o rai cynigion arbennig, gwnaeth hyn sicrhau gwerth mwy na £500 o anrhegion ar gyfer Achos Siôn Corn.  

Dangosodd Karen Davies, yn ein tîm Chwaraeon a Chwarae, feddwl arloesol wrth ddefnyddio rhywfaint o arian grant a oedd ar gael i ddarparu offer chwaraeon i blant a phobl ifanc i roi sachau llawn peli troed, peli rygbi, setiau badminton, rhaffau sgipio ac eitemau amrywiol eraill. Cefais wybod ei bod hi wedi chwythu pob un o'r peli ei hun hefyd – tipyn o gamp!  

Helpodd ein Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd hefyd i hyrwyddo'r cynllun a rhoi lle gwych i stondin codi arian Achos Siôn Corn yn eu parti Nadolig blynyddol. Roedd y digwyddiad yn llwyddiannus iawn. O'r 800+ o bobl a fynychodd, rydw i ar ddeall mai'r unig berson a adawodd heb wên ar ei wyneb oedd rhiant y plentyn a enillodd y tedi Olaf 4-troedfedd yn y raffl ac sydd nawr yn gorfod dod o hyd i le iddo gartref!   

Heidiodd y tîm GGiD i'r sesiynau pacio anrhegion hefyd, ochr yn ochr â chydweithwyr o'n Tîm Datblygu Cymunedol, Cyswllt Un Fro, a thîm Datblygu’r Gweithlu Gofal Cymdeithasol. Rydym wedi rhannu neges arall o ddiolch i holl gorachod Siôn Corn ar StaffNet+.  

volunteers day 1

Fel gyda chymaint o'n gwaith fel Cyngor, mae llawer iawn o waith yn cael ei wneud y tu ôl i'r llenni i wneud i brosiectau fel hyn weithio. Gweithiodd ein timau Cyllid a Dysgu Oedolion gyda'i gilydd i ail-bwrpasu safle talu cyrsiau'r Fro i dderbyn rhoddion ar-lein. Gwnaeth hyn alluogi mwy na £2000 gan staff a phreswylwyr. Yna nododd Mike Bumford, Uwch Dechnegydd Cyfrifeg, ffordd o hawlio'r TAW yn ôl ar roddion a brynwyd, gan ychwanegu'r hyn sy'n cyfateb i £1200.  

Mae'r gwaith sy'n sail i'r prosiect yn rhedeg trwy gydol y flwyddyn ac yn cael ei arwain gan dîm prosiect sy'n dod â chydweithwyr o'r Gwasanaethau Cymdeithasol ac Adnoddau Corfforaethol ynghyd.  Mae'r gwaith yn cael ei arwain drwyddi draw gan Harriet Kirby, Leanne Delaney, ac Emily Woodley.  Fel y tîm craidd, mae'r tri chydweithiwr hyn yn trefnu popeth o gysylltu â rhoddwyr corfforaethol i gasglu manylion y plant sydd angen ein cefnogaeth, i gydlynu’r gwaith o brynu, trefnu a dosbarthu'r anrhegion. Mae hyn i gyd ar ben eu swyddi prysur a heriol iawn yn ein timau Cyfathrebu a Chylch Bywyd. Mae eu hymdrechion yn anhygoel.  

Ar ran Cyngor Bro Morgannwg, ein holl dimau, ac yn bwysicaf oll y teuluoedd y bydd eu Nadoligau nawr ychydig yn well, hoffwn ddiolch i bawb a chwaraeodd ran yn ymgyrch Achos Siôn Corn eleni. Diolch yn fawr iawn bawb.    

FIS Team as Christmas elves

Un o'r timau y soniais amdanynt mewn perthynas ag Achos Siôn Corn oedd y Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd (GGiD), ac roedd yn wych bod Becky Wickett, Rheolwr y Tîm Gwybodaeth Gofal Cymdeithasol, wedi cysylltu yn gynharach heddiw i rannu gwybodaeth bellach am ddau ddigwyddiad a gynhaliwyd ganddynt ar gyfer teuluoedd yn y Fro ar 6 Rhagfyr.  Gwnaeth yr holl blant, rhieni a gofalwyr a aeth i’r digwyddiadau am ddim yn y Memo, y Barri, fwynhau cymryd rhan yn yr holl weithgareddau Nadoligaidd a gynigiwyd gan ein gwasanaethau gwych yn y Fro.  

Roedd Becky yn awyddus i ddiolch i'r holl sefydliadau a gefnogodd y digwyddiad - fel y Tîm Datblygu Chwarae, Dewis Cymru, y Tîm Cymorth Cynnar, Dechrau'n Deg, Mudiad Meithrin, Cymunedau am Waith a Mwy a llawer mwy a gymerodd ran ac a ymgysylltodd â theuluoedd am eu gwasanaethau, tra'n cynnig gweithgareddau Nadolig gwych.  

Diolch yn arbennig i Kelly Fenton a Cath Broad, y prif drefnwyr, a holl gorachod GGiD a Dewis!  Diolch yn fawr iawn i chi i gyd.  

Mae'r GGiD yn cysylltu teuluoedd â gwasanaethau a chymorth, gan gynnwys gofal plant, help gyda chostau gofal plant, gwasanaethau cymorth i deuluoedd a gweithgareddau ar gyfer plant a phobl ifanc. Gallwch ddysgu mwy yma Hwb GGiD

Daeth fy nefnydd achlysurol o’r Gymraeg yn fy negeseuon hyn Saesneg i fyny mewn sgwrs yr wythnos hon pan fynychais y digwyddiad dathlu ar gyfer ein carfan ddiweddaraf o ddysgwyr ar y cynllun Iaith Gwaith. Rwy'n ceisio ymuno â'r sesiynau hyn lle dwi’n gallu, yn rhannol oherwydd, fel siaradwr Cymraeg iaith gyntaf, rwy'n deall pa mor bwysig yw hi i rai trigolion allu ymgysylltu â'r Cyngor yn ddwyieithog.    

Work Welsh December Presentation Group

Mae tyfu defnydd o'r iaith o fewn y Cyngor yn bwysig am y rheswm hwn ac mae defnyddio geiriau ac ymadroddion yma ac acw yn rhywbeth y gallwn ni i gyd ei wneud i helpu gyda hyn. Roedd mor braf clywed ddydd Mawrth fod cydweithwyr a oedd newydd gwblhau rhai o'r cyrsiau cyflwyno mor awyddus i ddechrau defnyddio'r Gymraeg sydd ganddyn nhw nawr. 

Diolch yn fawr i'r rhai oedd yn hapus i sgwrsio ddydd Mawrth a llongyfarchiadau ar eich cynnydd hyd yma.  Beth bynnag fo'ch cymhelliant dros ddysgu a beth bynnag rydych chi'n bwriadu defnyddio eich sgiliau iaith ar ei gyfer, bydd amserlen newydd o gyrsiau ar gyfer staff yn cael ei lansio yn y Flwyddyn Newydd a gallwch gofrestru nawr.   

Dangosodd y cyfrifiad diweddaraf fod y Fro yn un o'r ardaloedd yng Nghymru sydd â nifer gynyddol o siaradwyr Cymraeg. Heb os, mae'r addysg cyfrwng Cymraeg ardderchog sydd ar gael yn y Fro yn ffactor a chefais adborth ardderchog ar un o'n hysgolion yn ddiweddar.   

Sefydlwyd Canolfan Iaith Gymraeg gyntaf y Fro yn Ysgol Gwaun y Nant ym mis Ionawr 2022. Mae'r Ganolfan yn cael ei rhedeg gan Enfys McKavanagh sy'n gweithredu fel unig athro’r ganolfan a’r hyrwyddwr cyffredinol dros yr iaith. Fe'i sefydlwyd i helpu plant i symud o addysg Saesneg i addysg Gymraeg, cefnogi disgyblion mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg sydd angen ychydig o gymorth iaith ychwanegol, ac yn arbennig i helpu pobl sy'n symud i Gymru sy'n dymuno dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg.  Ers iddi agor, mae 150 o ddysgwyr wedi cael eu haddysgu a derbyniais y canlynol yr wythnos hon oddi wrth riant dau ohonynt. 

"Mae fy efeilliaid newydd orffen eu cyfnod o 12 wythnos yn y ganolfan iaith yn Ysgol Gwaun y Nant gydag Enfys McKavanagh.  Roeddwn i eisiau e-bostio i ddiolch o waelod calon am y ddarpariaeth sydd wedi'i chynnig iddynt. Rydym wedi symud i'r Barri yn ddiweddar ar ôl byw yn Sbaen am 12 mlynedd felly mae wedi bod yn newid mawr i ni gyd. Mae'r profiad yn y ganolfan wedi bod yn bont enfawr i'r efeilliaid ac wedi cynnig lle iddyn nhw lle maen nhw’n teimlo croeso ac yn hyderus. Mae eu Cymraeg wedi datblygu'n rhyfeddol yn ystod y cyfnod hwn ac mae hyn yn dyst i Enfys a'i thîm.  Mae hi wir yn athro arbennig iawn. Mae hi wedi bod yn gyson broffesiynol, angerddol ac amyneddgar.  Mae wedi bod yn bleser anfon fy mhlant ati a'u gwylio ar eu taith Gymreig."  

Am ganmoliaeth. Gwaith da a diolch yn fawr iawn Enfys.  

Bydd llawer ohonoch yn darllen y neges hon ar ddiwrnod cyflog, felly does dim amser gwell i rannu mwy o ganmoliaeth a gefais yr wythnos hon, i'n tîm cyflogres mewnol y tro hwn. Cysylltodd cydweithiwr i ofyn a allwn i ddiolch ar ei ran i’r tîm am eu gwaith gwych i brosesu'r dyfarniad cyflog y cytunwyd arno'n ddiweddar mor gyflym a sicrhau bod staff yn derbyn eu cyflog ôl-ddyddiedig mewn pryd ar gyfer y Nadolig. Diolch enfawr i'r tîm, felly, ar ran fy holl gydweithwyr - bydd eich gwaith caled yn mynd yn bell i helpu i lenwi hosanau dros y pythefnos nesaf.  

Hoffwn ddiolch hefyd i'n cynrychiolwyr undebau llafur lleol a'r undebau eu hunain yn ehangach am eu cefnogaeth a'u cyfraniad eleni.  Mae gennym berthynas waith ardderchog gyda'n cydweithwyr undeb.  Mae eu cefnogaeth i gydweithwyr unigol wrth gwrs yn hanfodol ond, yr un mor bwysig mae eu gwaith yn eirioli dros staff yn ehangach ac yn ein helpu ni i gyd i weithio mewn ffordd sy'n datblygu'r sefydliad drwy roi ein pobl yn gyntaf.  

The learning cafe

Yn olaf, i'r rhai na allent ymuno â ni ddydd Mercher, mae'r sesiwn Caffi Dysgu sy'n canolbwyntio ar ein cyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf bellach ar gael i'r holl staff ei gweld ar-lein. Bydd ein setliad ariannol gan Lywodraeth Cymru yn cael ei gyhoeddi ddydd Mercher a byddaf yn ysgrifennu at yr holl staff i nodi'r hyn y mae'n ei olygu.   

Fel bob amser rwy’n ddiolchgar am eich ymdrechion yr wythnos hon.  Diolch yn fawr bawb. 

Rob.