
Annwyl Gydweithwyr,
Yn fy neges i chi ddydd Gwener diwethaf, soniais am ein hymarfer arolygu mwyaf erioed ledled y sir oedd ar fin cael ei lansio, Mae’n Amser Siarad am Fywyd yn y Fro.
Mae'r arolwg hwn bellach wedi'i lansio a gellir ei gwblhau yn cymrydrhan.valeofglamorgan.gov.uk/beth-am-siarad
Hoffem glywed gan gynifer o bobl â phosibl ac mae hynny'n cynnwys chi.
Mae'r arolwg yn ymdrin ag ystod o bynciau gan gynnwys costau byw, tai, diogelwch cymunedol, trafnidiaeth gyhoeddus ac iechyd a lles.
Rydym am i'ch profiadau lywio sut rydym yn darparu gwasanaethau yn y dyfodol. Bydd canlyniadau'r arolwg yn helpu i lunio sut fydd y Cyngor yn edrych yn y dyfodol.
Bydd yn llywio'r blaenoriaethau ar gyfer ein Cynllun Cyflawni Blynyddol nesaf, ein rhaglen drawsnewid, y Strategaeth Ariannol a'r Cynllun Corfforaethol nesaf.
Am y rhesymau hyn, mae'n bwysig ein bod yn clywed gan ystod eang o breswylwyr a defnyddwyr gwasanaethau, fel ein bod yn deall sut mae profiadau pobl yn wahanol a sut y gallwn fynd i'r afael ag anghydraddoldebau.
Pe bai pob aelod o staff naill ai'n cwblhau'r arolwg neu'n ei rannu gyda chydweithiwr neu rywun y maent yn darparu gwasanaeth iddo, yna byddai gennym lawer iawn o wybodaeth i’w defnyddio.
Rydym i gyd yn rhan o Dîm y Fro a bydd canlyniadau'r arolwg yn effeithio ar bob un ohonom wrth lunio sut rydym yn gweithio yn y dyfodol.
Ar ôl i ni gael canlyniadau'r arolwg, byddwn yn sicrhau bod y rhain ar gael i gydweithwyr fel y gallwch eu defnyddio yn eich gwaith. Mae'r ymarferiad hwn yn rhan o raglen waith ehangach i wella sut mae'r Cyngor yn ystyried barn pobl sy'n byw ac yn gweithio yn y Fro wrth wneud penderfyniadau.
Bydd pawb sy'n cymryd rhan yn cael cyfle i ennill un o ddeg taleb Love2Shop gwerth £50, y gellir eu gwario mewn amrywiaeth eang o siopau a bwytai'r stryd fawr.
Rwy'n gobeithio y gallwch chi dreulio amser heddiw yn cwblhau'r arolwg eich hun neu ei rannu.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am yr ymarfer hwn, cysylltwch â Rob Jones, Rheolwr Cyfathrebu, neu Hannah Rapa, Arweinydd Cyfranogiad y Cyhoedd a Chynnal Ymgyrchoedd.
Fel bob amser, diolch yn fawr a gadewch i ni siarad!
Rob