Staffnet+ >
Ymweliad Cartref Gofal gan Loveworld Church Caerdydd
Ymweliad Cartref Gofal gan Loveworld Church Caerdydd
Mae cartref preswyl Southway wedi cael ymweliad gan aelodau o Gorfflu Meddygol Gwirfoddol Loveworld Church Caerdydd.
Wedi'i leoli yn y Bont-faen, mae cartref preswyl Southway yn gartref i bobl sy'n byw â dementia.
Mae'r cynorthwyydd gofal Olumide Ajala sy'n gweithio yn y cartref, yn aelod o'r Corfflu Meddygol Gwirfoddol/côr. Trefnodd Olumide yr achlysur a daeth â'i fab 2 oed, Fhalom, draw i brofi'r gweithgareddau a chymysgu gyda'r trigolion.

Mwynhaodd pawb cwmni'r Corfflu Meddygol Gwirfoddol a chymerwyd rhan mewn sawl gweithgaredd a oedd yn cynnwys Fhalom yn mwynhau hufen iâ gyda'r preswylydd Donald Harries.
Mae'r Corfflu Meddygol Gwirfoddol / côr yn perthyn i Loveworld Caerdydd sydd â rhwydwaith byd-eang o weithwyr gofal iechyd Cristnogol, gwirfoddolwyr anfeddygol a myfyrwyr sydd wedi ymrwymo i ddarparu gofal meddygol trwy allgymorth ledled y byd.
Dywedodd y Cynghorydd Eddie Williams: "Mae hon yn foment fyrfyfyr wych i'r preswylwyr ac mae'n arbennig o bwysig i'r rhai sy'n byw gyda dementia.
"Mae Southway yn galluogi pobl sydd â phrofiad byw o ddementia i ffynnu a thyfu trwy ddarparu cyfleoedd gwirioneddol i gymryd rhan ystyrlon mewn profiadau pwysig fel hyn.
"Hoffem ddiolch i aelodau Corfflu Meddygol Gwirfoddol Loveworld Church Caerdydd am ddiddanu'r trigolion a gwneud eu diwrnod yn un arbennig."
Mae Southway yn gartref preswyl deulawr a adeiladwyd yn bwrpasol, wedi'i leoli yng nghanol y Bont-faen, yn rhan orllewinol wledig Bro Morgannwg, rhwng Caerdydd a Phen-y-bont ar Ogwr.
Mae o fewn pellter cerdded byr i ganol y dref leol, sydd â gardd ffiseg, siopau hen ffasiwn, tafarndai a bwytai.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â southwayresidential@valeofglamorgan.gov.uk 01446 772265