Galw ar Staff i gwblhau'r Canfasiad Blynyddol

Electoral Commission Your Vote Matters Poster CymraegMae ein Tîm Cofrestru Etholiadol newydd ddosbarthu'r rownd gyfathrebu ddiweddaraf a'r olaf yn gofyn i drigolion y Fro gadarnhau eu manylion ar gyfer y Gofrestr Etholiadol.

Y dyddiad cau i lenwi'r ffurflen yw 11 Medi, felly rydym yn annog ein holl staff sy'n byw yn y Fro i wneud hynny.

Yn rhan o’r Canfasiad blynyddol mae angen i Adran y Gofrestr Etholiadol gysylltu â phob cyfeiriad preswyl ym Mro Morgannwg i gadarnhau a yw’r wybodaeth sydd gennym ar y Gofrestr Etholiadol yn gywir a chyfredol. 

Yn ddiweddar, anfonwyd ffurflenni cyfathrebu canfasio i bob cyfeiriad preswyl.  Os ydych wedi derbyn ffurflen WERDD, yna nid oes angen gweithredu pellach (oni bai bod y wybodaeth yn anghywir neu fod angen ei diweddaru).

Fodd bynnag, oes cawsoch chi ffurflen BINC, yna RHAID i chi ymateb yn brydlon.

Dim ond ychydig funudau y mae'n ei gymryd i wirio neu ddiweddaru manylion eich aelwyd ar-lein.  

Ewch i www.registersecurely.com/cy/VoG a chofiwch gynnwys enwau a chenedligrwydd pob person 14 oed neu hŷn  sy'n breswylydd ac sy'n gymwys i gofrestru i bleidleisio yn y cyfeiriad. Os nad oes unrhyw breswylwyr cymwys, dylech nodi pam. Gallwch newid, ychwanegu neu ddileu manylion unrhyw un sy'n byw yn eich eiddo.