Staffnet+ >
Gwasanaethau Cymdeithasol yn derbyn adroddiad arolygu gwych
Gwasanaethau Cymdeithasol yn derbyn adroddiad arolygu gwych
06 Ebrill 2023
Mae'r Tîm Gwasanaethau Cymdeithasol wedi derbyn adroddiad gwych yn dilyn arolygiad diweddar gan Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC).
Asesodd AGC y Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc a’r Gwasanaethau Oedolion a chydnabod y lefel uchel y mae'r ddau'n gweithredu arni.
Mae eu hadroddiad yn tynnu sylw at uwch arweinyddiaeth gref o fewn yr adran a'r cynlluniau strategol clir sydd ar waith i werthuso gwelliannau.
Mae cydweithwyr hefyd am cael eu canmol yn sgil tystiolaeth glir o welliant ers i AGC gynnal gwiriad sicrwydd ym mis Tachwedd 2021, gan arwain at ganlyniadau gwell i blant, pobl ifanc a'u teuluoedd.
Nodwyd hefyd bod y rhan fwyaf o bobl yn derbyn cefnogaeth a gwasanaethau’n brydlon, ac roedd sylwadau cadarnhaol eraill yn ffocysu ar y gefnogaeth a ddarperir i gynnal diogelwch a lles defnyddwyr gwasanaethau a'r ymdrechion a wneir i sicrhau bod eu lleisiau'n cael eu clywed.
Daeth arolygwyr o hyd i dystiolaeth bod cyfathrebu yn Gymraeg ac ieithoedd eraill yn cael ei gynnig a chyfeirio at y buddsoddiad sy'n cael ei wneud mewn sicrhau ansawdd, gyda swyddi newydd fydd yn canolbwyntio ar y maes hwn.
Dywedodd Lance Carver, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol: "Rydym yn falch iawn o ganlyniadau'r adroddiad arolygu, sy'n hynod gadarnhaol.
"Yn anad dim, mae'r ddogfen yn gymeradwyaeth glir i'n staff ymroddedig, sydd wedi parhau i berfformio at safonau eithriadol ar adeg heriol o ddarparu Gofal Cymdeithasol ledled Cymru.
"Maen nhw wedi gweithio'n ddiwyd, yn aml yn gwbl anhunanol, yn erbyn cefndir o bwysau mawr ar adnoddau a mwy o alw, gan barhau i gynnig cymorth o'r radd flaenaf i rai o drigolion mwyaf agored i niwed y Fro.
"Mae pawb fu ynghlwm â hyn yn haeddu clod aruthrol am eu hymdrechion a hoffwn ddiolch yn bersonol i bob un ohonoch chi. Mae'r gydnabyddiaeth hon yn gwbl haeddiannol.
"Bydd y buddsoddiad i atgyfnerthu ein System Sicrhau Ansawdd yn cryfhau'r Gwasanaeth ymhellach, gan helpu i gynnig mwy fyth i'r rhai yn y Fro sydd ei angen fwyaf."