Staffnet+ >
Ymunwch â Chaffi'r Menopos ar 21 Ebrill
Ymunwch â Chaffi'r Menopos ar 21 Ebrill
Mae ein Hadran Iechyd Galwedigaethol yn cynnal Caffi’r Menopos nesaf yn y Swyddfeydd Dinesig y mis hwn.
Nod Caffi’r Menopos yw chwalu'r tabŵ o amgylch y menopos drwy gynyddu ymwybyddiaeth o effaith y menopos ar y rhai sy’n mynd drwyddo, yn ogystal â'u ffrindiau, eu teulu a'u cydweithwyr.
Nid oes gan Gaffi’r Menopos unrhyw agenda, strwythur na siaradwyr, ei fwriad yw cynnig amgylchedd lle gall pobl ddechrau sgyrsiau am y menopos i'w wneud yn sgwrs bob dydd.
Mae'r caffi yn agored i'r holl staff (waeth beth fo'u hoedran neu eu rhyw) a hoffai gael y cyfle i siarad am y menopos, rhannu straeon, profiadau a gofyn cwestiynau, i gyd wedi’u gwneud yn haws gyda phaned a chacen!
“Yn anffodus, mae llawer o bobl yn teimlo y dylen nhw jyst 'fwrw 'mlaen gyda' r menopos gyda rhai byth yn siarad â'u ffrindiau neu eu teulu am y peth. Gall pobl ddod draw i Gaffi Menopos a gwrando, neu ymuno yn y trafodaethau, gan adael, gobeithio, gydag ymdeimlad cliriach o effaith y menopos ar y rhai sy'n ei brofi." Rachel Weiss - Sylfaenydd Elusen Caffi’r Menopos.
Ymunwch â ni ddydd Gwener 21 Ebrill 2023, rhwng 11:15am a 12:30pm yn yr Ystafell Gorfforaethol, y Swyddfeydd Dinesig, yn Y Barri.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â'r Adran Iechyd Galwedigaethol – 01446 709121 neu e-bostiwch: OHadmin@valeofglamorgan.gov.uk