Mae hi'n Wythnos Fyd-eang Pontio'r Cenedlaethau 

GIW 2023Mae Wythnos Fyd-eang Pontio’r Cenedlaethau (#GIW23) yn ymgyrch flynyddol sy'n dathlu pob peth sy’n dod â chenedlaethau at ei gilydd.

Nod ymgyrch #GIW23 yw ysbrydoli cymunedau a sefydliadau, dathlu’r hyn sy’n pontio'r cenedlaethau, a chysylltu pobl o wahanol genedlaethau mewn gweithgareddau sy'n fuddiol i bawb, amcan allweddol yng ngwaith y Cyngor o wneud y Fro yn dda i bobl hŷn.

Yn gweithio ochr yn ochr â Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Bro Morgannwg, mae'r Cyngor wedi ymrwymo i gefnogi pobl o bob oed i fyw ac i heneiddio'n dda ledled y sir.

Age Friendly Vale Logo

Yn ddiweddar, defnyddiodd y Cyngor gyllid gan Lywodraeth Cymru i benodi Siân Clemett-Davies, ein Swyddog Newydd i'r Fro Sy'n Dda i Bobl Hŷn. Mae Siân yn ymgysylltu â phartneriaid o bob rhan o'r Fro, gan gynnwys pobl o bob oed, yn enwedig y rhai dros 50 oed, i greu cymuned sy’n dda i bobl hŷn, ac mae’n cefnogi amryw o brosiectau pontio'r cenedlaethau lleol yn ei rôl.

Yn ystod #GIW23, bydd tirnodau o amgylch y Barri yn cael eu goleuo’n binc a byddwn yn tynnu sylw at rai o'r prosiectau lleol sy'n helpu bontio’r cenedlaethau a chreu 'Bro Sy'n Dda i Bobl Hŷn'.

Gardd Gymunedol Crawshay Court

Crawshay plastic bottle green houseMae gwirfoddolwyr o Vale Plus, Ysgol y Ddraig, Heddlu De Cymru a Crawshay Court wedi gweithio'n galed i greu lle sy’n pontio’r cenedlaethau yng Ngardd Gymunedol Crawshay Court, gan ddod â phobl hŷn ac iau at ei gilydd mewn ffyrdd sy'n fuddiol i bawb.

Wedi’i lleoli yng Nghynllun Tai Gwarchod Crawshay Court, nod yr ardd gymunedol yw lleihau unigedd, gwella lles, a thyfu ffrwythau a llysiau i gefnogi tenantiaid a'r gymuned drwy'r argyfwng costau byw.

Mae gwirfoddolwyr yr ardd yn galw ar y gymuned i gyfrannu poteli plastig dau litr iddynt i gwblhau eu tŷ gwydr wedi’i greu o ddeunyddiau ailgylchu

Os oes gennych boteli i'w sbario, cysylltwch â Sian Clemett-Davies i drefnu eu gollwng yn y Swyddfa Ddinesig neu eu gollwng yng Ngorsaf Gwasanaethau Brys Llanilltud Fawr, Llanmaes Rd, CF61 2XD, at sylw SCCH Rhiannon Cummings.

Cawl a Chân

Soup and songYn ystod gaeaf y llynedd fe wnaeth clwstwr Ysgol Pencoedtre wahodd aelodau o'r gymuned i'w prosiect 'Cawl a Chân'.

Gyda phrydau cartref wedi eu coginio gan y disgyblion ar gael, sicrhaodd y cynllun fod gan drigolion lleol bryd poeth ar adeg pan fyddai llawer yn gorfod mynd hebddo oherwydd yr argyfwng Costau Byw.

Gyda sesiwn gydganu hyfryd yn dilyn y pryd, mae'r prosiect yn enghraifft wych o waith pontio'r cenedlaethau yn lledaenu llawenydd ac yn mynd i'r afael â materion pwysig fel unigrwydd, unigedd, a chostau byw.

Os ydych yn cynnal digwyddiad neu weithgaredd ymgysylltu a / neu os hoffech gael cefnogaeth ein partneriaid Bro sy’n Dda i Bobl Hŷn, cysylltwch â Siân ar 01446 700111 neu e-bostiwch snclemett-davies@valeofglamorgan.gov.uk.