Diwrnod Gwelededd Lesbiaidd Rhyngwladol ac Wythnos Gwelededd Lesbiaidd

 

Lesbian day of visibility

Ers 2008, mae Diwrnod Gwelededd Lesbiaidd yn cael ei ddathlu ac mae wedi datblygu’n Wythnos Gwelededd Lesbiaidd.  Nod y digwyddiadau yw codi ymwybyddiaeth o hunaniaethau lesbiaid, dathlu llwyddiannau lesbiaid, eu grymuso, a dwyn amlygrwydd i aelodau o’r gymuned LHDTC+ sy’n ystyried eu hunain yn lesbiaid.

Mae hefyd yn amser i fyfyrio ar yr heriau penodol sy'n wynebu lesbiaid, ac i hyrwyddo gwell dealltwriaeth o bawb sy’n LHDTC+. Trwy nodi Diwrnod Gwelededd Lesbiaidd Rhyngwladol a Wythnos Gwelededd Lesbiaidd, gallwn ni helpu i greu diwylliant o dderbyn a chynnwys pawb.

 

Pam mae angen i ni hyrwyddo gwelededd lesbiaid?

Roedd cyhoeddwraig cylchgrawn DIVA, Lisa Riley, yn allweddol o ran dechrau Wythnos Gwelededd Lesbiaidd yn 2020. Wrth ysgrifennu i Stonewall, dywedodd "Rwyf am i ni ddefnyddio'r amser hwn i nid yn unig ddathlu ein cymuned, ond i ddod at ein gilydd i ddyrchafu'r L yn LGBTQI.  Mae'n rhaid i ni ei chynrychioli fel y mae - sef cymuned gynhwysol, amrywiol a llawen yn llawn pobl sy'n parhau i rymuso a chefnogi ei gilydd."  

Mae Lisa hefyd wedi dweud bod merched yn aml yn profi cymysgedd penodol o gasineb tuag at ferched a homoffobia, a dyw hynny ddim yn eistedd yn daclus o dan label "homoffobia".  Mae llawer o lesbiaid hefyd wedi teimlo'n hanesyddol eu bod wedi’u hallgáu o ymgyrchoedd a sefydliadau ar gyfer hawliau hoyw. Ar hyn o bryd, mater arwyddocaol arall yw'r rhaniad a achosir gan grwpiau gwrth-draws rhwng lesbiaid cis a menywod traws.  

Eleni, nod Wythnos Gwelededd Lesbiaid yw dangos undod yn benodol gyda phob menyw LHDT+, drwy groesawu cynhwysiant traws ac anneuaidd yn llawn gyda'r hashnod #LGydarT. Mae mwy o wybodaeth ar Wythnos Gwelededd Lesbiaidd

 

Pa mor weladwy yw lesbiaid ar hyn o bryd?

Gofynnodd Cyfrifiad 2021 am gyfeiriadedd rhywiol am y tro cyntaf.  O'r rheiny a atebodd y cwestiwn am gyfeiriadedd rhywiol ym Mro Morgannwg, dewisodd 3.07% gyfeiriadedd 'Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol neu Arall (LGB+)', dewisodd 90.3% o bobl 16 oed a throsodd 'syth neu'n heterorywiol', a dewisodd y 6.6% arall beidio ag ateb y cwestiwn.

Mae adroddiad Stonewall Rainbow Britain 2022 yn dangos bod canran y bobl sy'n nodi eu bod yn lesbiaid yn uwch ymhlith y cenedlaethau iau, gyda 3% o Gen Z yn nodi eu bod yn lesbiaid o'u cymharu â llai nag 1% o Baby Boomers a Gen X. Mae data Cyfrifiad y DU yn adleisio hynny, sy’n dangos bod mwy o fenywod na dynion yn nodi eu bod yn 'cwiar' na dynion, sef 3.32% o'i gymharu â 3%.

Mae ymchwil ddiweddar (Arolwg Pride Matters, a gynhaliwyd gan Pride In London yn 2018) wedi dangos bod menywod hoyw bron ddwywaith mor annhebygol o fod allan yn y gweithle â’u cydweithwyr hoyw gwrywaidd.  Er bod yr ymchwil hwn cyn data Stonewall a'r Cyfrifiad, mae'n dal i fod yn bryder perthnasol. 

Mae Wythnos Gwelededd Lesbiaidd yn helpu i roi llwyfan i leisiau lesbiaidd, gan gynyddu amlygrwydd lesbiaid a chaniatáu dathlu a thrafodaeth onest. Gall amlygrwydd ysbrydoli eraill i fyw eu bywydau yn onest fel pwy ydyn nhw go iawn. Mae amrywiaeth a chynhwysiant yn hanfodol mewn gweithle a chymdeithas gadarnhaol a chyfartal.

 

Beth gallwch chi ei wneud?

Mae llawer o ffyrdd o ddathlu Diwrnod Gwelededd Lesbiaidd ac Wythnos Gwelededd Lesbiaidd. Mae digwyddiadau rhithiol am ddim fel L-Chat Lesbian Visibili-tea – neu restr faeth o ddigwyddiadau ar-lein ac wyneb yn wyneb yng Nghylchgrawn Diva. Fel arall, gallech chi ymchwilio i ffilmiau neu raglenni dogfen gan wneuthurwyr ffilm lesbiaidd, sy'n cynnwys actorion neu straeon lesbiaidd, neu ddarllen gweithiau gan awduron lesbiaidd. Cofiwch ddyrchafu a dathlu'r bobl lesbiaidd yn eich bywyd.

Gallwch chi hefyd ddod i nabod straeon, cyfrifon ac ymgyrch ar hyb lesbiaidd Stonewall a gwefan Wythnos Gwelededd Lesbiaidd.

Mae'r Cyngor yn gweithio'n galed iawn i sicrhau ein bod yn cynnig lle diogel a dymunol i bobl LHDTC+ weithio ac i sicrhau bod Bro Morgannwg yn amgylchedd cadarnhaol a meithringar. Os hoffech chi gymryd rhan yn hyn, neu os oes gennych chi unrhyw awgrymiadau ar sut i wneud pethau'n well, cysylltwch â GLAM, ein Rhwydwaith Staff LHDTC+.

Mae rhai cyrsiau defnyddiol a diddorol hefyd ar gael i'r holl staff ar iDev.

Os ydych chi’n pryderu am wahaniaethu neu aflonyddu, neu os ydych chi am gael rhagor o wybodaeth am sut i adrodd am hyn, gweler polisi cwynion Cyngor Bro Morgannwg.