Pa mor dda ydych chi'n adnabod y Fro?

Mae data newydd o Gyfrifiad 2021 ar gael nawr.

Cynhelir y Cyfrifiad bob 10 mlynedd ac mae'n rhoi'r amcangyfrif mwyaf cywir o'r holl bobl a chartrefi yng Nghymru a Lloegr. 

Defnyddir gwybodaeth o'r Cyfrifiad gan y Llywodraeth ac Awdurdodau Lleol i gynllunio ac ariannu gwasanaethau lleol, megis addysg, gofal iechyd a thrafnidiaeth. 

Cyfrifiad 21 oedd y Cyfrifiad cyntaf oedd yn ddiofyn ddigidol a arweiniodd at un o'r cyfraddau ymateb gorau, gyda 98% o aelwydydd Bro Morgannwg yn ymateb a 94.2% yn ymateb ar-lein.

Mae'n bwysig ein bod yn defnyddio'r data hwn, sef yr adnodd mwyaf cywir a chyfredol sydd gennym, i lywio ein gwaith.  

Mae swyddogion yn ein tîm Polisi a Phartneriaeth wedi llunio adroddiad ar setiau data'r Cyfrifiad cyntaf a ryddhawyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Cyflwynir y dadansoddiad hwn drwy Gipolwg ar Fro Morgannwg – Adroddiad Cyfrifiad 2021

Mae'r adroddiad yn cynnwys dadansoddi data ar naw pwnc, sef:

  • Demograffeg a Mudo 
  • Cyn-filwyr Lluoedd Arfog y DU 
  • Grŵp Ethnig, Hunaniaeth Genedlaethol, Iaith a Chrefydd
  • Y Gymraeg 
  • Marchnad Lafur a theithio i'r gwaith 
  • Tai 
  • Cyfeiriadedd rhywiol a hunaniaeth rhywedd: 
  • Addysg  
  • Iechyd, Anabledd a Gofal Di-dâl /

Chwaraewch gwis Cyfrifiad 2021: pa mor dda ydych chi'n nabod eich ardal?

Rhai offer ac adnoddau defnyddiol eraill i gefnogi eich gwaith

Am wybodaeth bellach am y dadansoddiad, neu Gyfrifiad 21, cysylltwch â Lloyd Fisher, Uwch Swyddog Data a Pholisi: lfisher@valeofglamorgan.gov.uk

Ymunwch â'r Rhwydwaith Cyfranogiad

Mae cydweithwyr o bob rhan o'r Cyngor yn cyfarfod yn fisol i rannu arfer gorau, trafod eu gwaith a chydweithio ar brosiectau sydd i ddod. Os ydych chi'n ymwneud ag ymgysylltu â'r cyhoedd, ymgynghori neu eisiau gwybod mwy am ein gwaith Cyfranogiad, cysylltwch â Hannah Rapa, Arweinydd Cyfranogiad Cyhoeddus a Chyflawni'r Ymgyrch: hrapa@valeofglamorgan.gov.uk