Gwobrau Gwasanaeth Hir i Gydweithwyr o’r Cyngor

Yr wythnos hon, aeth cydweithwyr o bob rhan o wasanaethau'r Cyngor i’r seremoni gwobrwyo gwasanaeth hir.

Long Service Awards April 2023

Cafodd y rhai sy'n cyrraedd cerrig milltir 25 a 40 mlynedd gyda'r Cyngor eu gwahodd gan y Prif Weithredwr a’r Arweinydd i'r seremoni yn y Swyddfeydd Dinesig.

Roedd y seremoni wobrwyo yn anrhydeddu'r gweithwyr ac yn  cydnabod eu cyfraniadau gwerthfawr yn ystod eu cyfnod gyda'r Cyngor.

Aeth staff o sawl gwasanaeth gwahanol i’r seremoni, gan gynnwys gwasanaethau democrataidd, rheoli gwastraff a Gwasanaethau Rheoleiddiol a Rennir, i enwi rhai.

Roedd yn gyfle i’r rhai fu’n bresennol i fyfyrio ar y blynyddoedd a sôn am eu gwaith i gydweithwyr.

Cawson nhw eu gwahodd i ginio bwffe a chwis ar gerddoriaeth a oedd yn boblogaidd adeg dechreuon nhw.  Roedd y prynhawn yn cynnwys hanesion hiraethus o’u prif lwyddiannau ac atgofion melys o’r achlysuron yr oedden nhw’n ymfalchïo ynddyn nhw fwyaf.

Dwedodd Lorna Cross, Rheolwr Gweithredol yn y Gwasanaethau Ariannol: “Ni fues i erioed yn fwy balch na phan ddyfalbarhaodd ein gwasanaethau drwy Covid, ac ymroddiad ein staff i wneud hynny. 

Long Service Awards April 2023

"Fe weithion ni’n ddiflino drwy gyfnod anodd iawn, ac rydyn ni’n hynod falch o'n cydweithwyr".

Tra y bu rhai'n cofio cyd-weithwyr ddoe a heddiw sydd wedi ysbrydoli, bu eraill yn myfyrio ar eu gyrfa yng Nghyngor Bro Morgannwg. 

Dywedodd Steve Williams, Arweinydd Tîm Garej Ffitio Cerbydau Modur: "Rwy'n ddiolchgar iawn i Gyngor Bro Morgannwg am roi'r cyfleoedd i mi dyfu yn fy ngyrfa. Dechreuais ar lawr y siop, ac rydw i bellach yn arwain tîm o Ffitwyr Modur".

Bu Peter Andrews, Gweithredwr Rheoli Gwastraff, yn mynegi ei werthfawrogiad o'r digwyddiadau hanesyddol y mae wedi'u gweld ar ddyletswydd "Dwi'n cofio pan ddechreuais i, roeddwn i'n arfer mwynhau gwylio doc yr MV Balmoral ym Mhier Penarth. Mae'r rhain yn atgofion annwyl fydd yn aros yn y cof am byth".

Bu rhai yn rhannu eu mwynhad o weld y Cyngor yn tyfu dros y blynyddoedd gan ehangu ei wasanaethau er budd y cyhoedd yn ehangach.

Dywedodd Matthew Jones, Rheolwr Gorfodi Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir: "Dwi wedi gweld y twf yn y Gwasanaethau Rheoliadaol a Rennir dros y blynyddoedd ac mae gennym ni'r seilwaith i allu helpu'r rhai sydd wir ei angen. Mae bod yn rhan o'r broses honno yn rhoi ymdeimlad mawr o foddhad i mi".

Mae ymrwymiad ac ymroddiad yr unigolion hyn yn hollbwysig i ddarparu gwasanaethau dydd-i-ddydd Cyngor Bro Morgannwg yn llwyddiannus.  Mawr yw ein dyled i'w gwasanaeth ffyddlon ac fe hoffen ni, unwaith eto, eu llongyfarch i gyd ar y garreg filltir bwysig hon.

Os ydych eisiau gwirio eich cymhwysedd ar gyfer y wobr hon, cysylltwch âlongserviceawards@valeofglamorgan.gov.uk.

Rhestr lawn o'r mynychwyr:

Steven Williams, Matthew Jones, Lucy Butler, Jill Collings, Jeffrey Rees, Lorna Cross, Susan Brown, Tracey Moreton, Peter Andrews.