Haf o Hwyl 2022 yn dirwyn i ben

Wrth i ni gyrraedd wythnosau olaf rhaglen Haf o Hwyl eleni, rydyn ni’n myfyrio ar haf llawn hwyl.
Wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru, nod y cynllun yw cefnogi lles plant a phobl ifanc i barhau i adfer yn sgil y cyfyngiadau Covid dros y ddwy flynedd ddiwethaf, gyda'r fantais ychwanegol o gefnogi teuluoedd gyda chostau gweithgareddau dros wyliau'r haf.
Ers 1 Gorffennaf, mae dros 700 o sesiynau gweithgareddau am ddim wedi'u darparu ar draws 24 o drefi a phentrefi ym Mro Morgannwg.
Mewn cydweithrediad ag 16 o brif bartneriaid, gan gynnwys Happy Hands & Co, Bro Radio a Key Create, a nifer o glybiau a sefydliadau cymunedol, cynigiwyd amserlen llawn dop o ddigwyddiadau heb unrhyw gost i bobl ifanc hyd at 25 oed ar draws y sir.
Roedd gan y rhaglen eleni amrywiaeth enfawr o weithgareddau, yn amrywio o ddosbarthiadau dawns a chelfyddydol i hela ffosilau a gweithdai radio.
Ochr yn ochr â sefydliadau allanol, mae gwasanaethau o bob rhan o'r Cyngor wedi gweithio'n agos gyda'r cynllun ac wedi cynnal eu sesiynau gweithgaredd eu hunain.

Mae’r Tîm Datblygu Chwaraeon, Tîm Datblygu Chwarae, Gwasanaeth Llyfrgelloedd, Tîm Twristiaeth a Digwyddiadau, Gwasanaethau Cefn Gwlad, Gwasanaethau Ieuenctid, Gwasanaeth Datblygu'r Celfyddydau, Tîm Cymorth Cynnar a'r Tîm Diogelwch Cymunedol i gyd wedi darparu digwyddiadau dros y misoedd diwethaf fel rhan o'r rhaglen Haf o Hwyl.
Nôl ym mis Awst, denodd digwyddiad diwrnod chwarae cenedlaethol y tîm Chwaraeon a Chwarae lawer iawn o bobl i barc Romilly a gwelwyd cannoedd o bobl ifanc yn mwynhau amrywiaeth o gyfleoedd chwarae.
Mynychodd Gwasanaeth Ieuenctid y Fro, y Tîm Dechrau'n Deg, y Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd, Gwasanaeth Rhianta'r Fro, Llyfrgelloedd y Fro a'r Tîm Dysgu Oedolion i gyd y digwyddiad gan gyflwyno diwrnod llawn gweithgareddau cynhwysol a hwyl i ddathlu a thynnu sylw at bwysigrwydd popeth sy’n ymwneud â chwarae.
Roedd y diwrnod yn un o nifer o uchafbwyntiau'r rhaglen eleni.
Gyda nifer fawr o ddigwyddiadau yn cyrraedd capasiti llawn, mae Haf o Hwyl 2022 wedi bod yn llwyddiant ysgubol ac wedi cefnogi cannoedd o deuluoedd gyda chost gweithgareddau gwyliau'r haf - da iawn i bawb sydd wedi bod yn rhan!