Gwobrwyon Dewi Sant 2023: Yn dathlu 10 mlynedd

 

Pwy sydd wedi eich ysbrydoli?  Pwy all Cymru ymfalchïo ynddynt? Mae Gwobrau Dewi Sant yn cydnabod ac yn dathlu llwyddiannau eithriadol pobl Cymru a thramor.

Mae eich cyfle i enwebu cydweithiwr ar gyfer gwobrau staff y Cyngor wedi mynd heibio nawr, ond os ydych yn adnabod unigolyn neu grŵp y credwch ei fod yn haeddu cydnabyddiaeth ehangach, ystyriwch eu henwebu ar gyfer gwobr Dewi Sant.

Gwobrau Dewi Sant yw'r wobr genedlaethol i Gymru ac yn 2023 mae’n dathlu ei 10fed pen-blwydd.

Mae'r wobr yn adlewyrchu ac yn dathlu dyheadau Cymru a'i dinasyddion fel gwlad fodern, fywiog sy'n gwerthfawrogi arloesedd, ysbryd cymunedol ac yn fwy na dim, ei phobl.

Fel gyda’r enwebiadau i staff, mae yna nifer o wahanol gategorïau o enwebiadau, sy'n rhoi cyfle i chi gydnabod a dathlu pobl o bob cefndir yng Nghymru.

Dyma'r categorïau ar gyfer gwobrau 2023:

Busnes
Dewrder
Ysbryd Cymunedol
Gweithiwr Hanfodol (Gweithiwr Allweddol)
Diwylliant
Amgylchedd
Arloesedd, Gwyddoniaeth a Thechnoleg
Campau
Person Ifanc
Gwobr Arbennig y Prif Weinidog

Mae Prif Weinidog Llywodraeth Cymru a'i ymgynghorwyr yn penderfynu ar bwy sy’n cyrraedd y rownd derfynol a phwy yw'r enillwyr.

Ystyriwch enwebu unrhyw bobl neu grwpiau yn eich ardal chi sy'n haeddu cydnabyddiaeth genedlaethol yn eich barn chi, ac i annog eraill i enwebu hefyd. 

Gallwch ddod o hyd i fanylion y wobr a sut mae cyflwyno enwebiad ar-lein.

 sda-fb-image