Staffnet+ >
Sally Moore yn sgwrsio â'r Athro Gerda Roper
Sally Moore yn sgwrsio â’r Athro Gerda Roper
*Sylwer: Mae’r digwyddiad hwn wedi’i ganslo yn dilyn marwolaeth Ei Mawrhydi y Frenhines Elizabeth II*

Wedi’i drefnu gan Gyfeillion yr Oriel Gelf Ganolog, ymunwch â’r artist arobryn Sally Moore wrth iddi drafod yr hyn sy’n ei hysbrydoli a’i gwaith gyda'r Athro Gerda Roper. Bydd y digwyddiad am ddim hwn yn cael ei gynnal rhwng 11am ac 1pm ar 10 Medi yn Oriel Gelf Ganolog y Barri.
Ganed Moore yn y Barri, a bu'n ddisgybl yn Ysgol Bryn Hafren (Ysgol Uwchradd Pencoedtre erbyn hyn). Bellach yn byw yn Llundain, mae wedi parhau â'i gyrfa baentio ac mae ei gwaith yn cael ei arddangos mewn amgueddfeydd ac orielau ledled y Deyrnas Unedig ️
Roedd ei rhieni, Eira (dawnsiwr a choreograffydd) a Leslie Moore (peintiwr) yn adnabyddus yn y Barri. Ei thad oedd Is-Bennaeth yr enwog Ysgol Haf y Barri, ysgol gelfyddydol ryngwladol a gynhaliwyd yn flynyddol yn ystod y 1960au a'r 70au. Cafodd Moore ei magu wedi’i hamgylchynu ac yn cael ei dylanwadu gan rai o artistiaid a pheintwyr enwoca’r byd, yma yn y Barri a Chymru.
Bydd sioe sleidiau o weithiau celf Sally i'w gweld yn ystod y drafodaeth wrth i’r ddau ffrind, Gerda a Sally, drafod ei hysbrydoliaeth, ei syniadau, a'i phaentiadau. Mae Moore wedi datblygu ei gwaith yn fawr dros y blynyddoedd ac mae'n adnabyddus am ei phaentiadau manwl sydd fel arfer yn cynnwys yr arlunydd ei hun. Mae ei gweithiau'n wahanol, yn unigryw, yn gain ac yn darlunio ei bywyd a'i hatgofion o’i phlentyndod.
Mae Peter Wakelin, awdur a churadur, wedi gweithio'n agos gyda Moore ac mae wedi ysgrifennu llyfr am yr artist, Sally Moore – Acting Up. Bydd copïau wedi'u llofnodi o'r llyfr ar gael i'w prynu ar y diwrnod.