Staffnet+ >
Neges gan y Prif Weithredwr 16.09.22

Neges gan y Prif Weithredwr
16 Medi 2022
Annwyl gydweithwyr,

Ar ddiwedd wythnos sobor i lawer hoffwn eich cynghori o'r trefniadau sydd wedi eu gwneud yn y Fro i nodi angladd gwladol Ei Mawrhydi y Frenhines Elizabeth II a fydd yn cael ei gynnal ddydd Llun.
Mae cydweithwyr yn ein tîm Gwasanaethau Democrataidd wedi bod yn gweithio gyda'r Maer a nifer o grwpiau cymunedol i drefnu gwasanaeth o ddiolchgarwch a choffáu i Ei Mawrhydi y Frenhines Elizabeth II. Bydd yn cael ei gynnal yn Eglwys yr Holl Saint yn y Barri ddydd Sul am 3.00pm.
Mae'r gwasanaeth yn agored i bob aelod o'r cyhoedd. Bydd nifer o gynrychiolwyr o'r Cyngor yn bresennol. Os ydych chi'n ystyried mynychu yna byddwch yn ymwybodol bod disgwyl i'r adeilad gyrraedd capasiti a bydd seddi'n gyfyngedig. I'r rhai a hoffai ei ddilyn o adref, fe fydd y gwasanaeth yn cael ei ddarlledu gan Bro Radio.

Bydd nifer o adeiladau'r Cyngor a thirnodau eraill yn cael eu goleuo'n borffor tan nos Lun er cof am Ei Mawrhydi. Mae'r rhain yn cynnwys y Swyddfeydd Dinesig, wyneb cloc Neuadd y Dref, a Llochesi'r Dwyrain a'r Gorllewin yn Ynys y Barri. Hoffwn ddiolch i gydweithwyr yn ein timau Gwasanaethau Eiddo ac Adeiladau a weithiodd yn gyflym yr wythnos hon i roi trefniadau ar waith ar gyfer hyn.
Hoffwn ddiolch hefyd i bob un o'r cydweithwyr hynny sydd wedi newid eu patrymau shifft am yr wythnos i ddod, neu a fydd yn gweithio'n hyblyg, i sicrhau bod ein gwasanaethau hanfodol yn parhau i weithredu ddydd Llun ac nad yw nodi'r foment hanesyddol hon yn arwain at darfu sylweddol ar ein cymunedau yn y dyddiau sy'n dilyn. Diolch yn fawr.
Fel bob amser, diolch i chi i gyd am eich gwaith yr wythnos hon. I'r rhai ohonoch y mae digwyddiadau’r wythnos diwethaf wedi effeithio arnoch, hoffwn eich atgoffa eto o'r wybodaeth am y gefnogaeth sydd ar gael a rannwyd yn gynharach yn yr wythnos.
Cofion cynnes,
Rob.