Y Cyngor yn nodi marwolaeth Ei Mawrhydi’r Frenhines Elisabeth II

 

Annwyl gydweithwyr, 

Her Majesty, Queen Elizabeth IIGyda thristwch y mae’r Cyngor yn nodi marwolaeth Ei Mawrhydi’r Frenhines Elisabeth II. 

Roedd Ei Mawrhydi’n ymroddedig yn ei gwasanaeth cyhoeddus a bydd ei marwolaeth yn cael ei theimlo i’r byw gan lawer. Mae ein holl gydymdeimladau gyda'r Teulu Brenhinol yn y cyfnod trist hwn. 

Mae’r holl faneri yn y Swyddfeydd Dinesig yn y Barri ar eu hanner. 

Mae llyfrau cydymdeimlo ar gael i’r cyhoedd yn y Swyddfeydd Dinesig a Swyddfeydd y Dociau yn y Barri a Depo’r Alpau yng Ngwenfô. Mae llyfr cydymdeimlo ar-lein hefyd wedi'i agor ar wefan y Cyngor. Mae croeso i unrhyw staff sy'n dymuno talu teyrnged wneud hynny. 

Mae'r Cynghorydd Susan Lloyd-Selby, Maer Bro Morgannwg hefyd wedi cyhoeddi datganiad cyhoeddus sydd ar gael ar wefan y Cyngor. 

Bydd unrhyw ddiweddariadau ar drefniadau i nodi’r farwolaeth yn cael eu cyhoeddi ar-lein yn www.bromorgannwg.gov.uk a’u rhannu ar gyfrifon cyfryngau cymdeithasol y Cyngor. 

Cofion, 

 

Y Cynghorydd Lis Burnett 

Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg 

 

Rob Thomas 

Prif Weithredwr