Yr Wythnos Gyda Rob
07 Hydref 2022
Annwyl gydweithwyr,
Mae hi wedi bod yn wythnos ers Gwobrau Staff 2022, ac mae hynny jyst wedi rhoi amser i mi fyfyrio ar y fath achlysur gwych. Roedd gweld cymaint o bobl yn dod at ei gilydd i ddathlu eu hunain, eu ffrindiau a'u cydweithwyr wedi'r cyfan rydyn ni wedi bod drwyddo yn y blynyddoedd diwethaf yn wych.

Ar ôl dwy flynedd i ffwrdd cafodd y gwobrau olwg newydd a chyfres newydd o gategorïau sydd wedi'u llunio i adlewyrchu ymroddiad ac ymrwymiad y staff, ar ôl ychydig o flynyddoedd hynod o heriol. Cyflwynwyd 194 o enwebiadau a oedd yn torri record, dros 1000 o bleidleisiau wedi'u bwrw, ac ar y noson roedd dros 400 o bobl yn bresennol i weld y 13 tlws yn cael eu trosglwyddo i'r enillwyr.
Gallwn ysgrifennu rownd wythnosol lawn ar gyfer pob un o'r enwebeion sydd ar y rhestr fer a'r un peth eto ar gyfer pob un o'r enillwyr. Dylai pawb y cafodd eu henw sylw fod yn falch iawn ohonynt eu hunain. Dylai'r rhai a aeth adref gydag un o'r tlysau unigryw a ddyluniwyd gan ddefnyddwyr ein Gwasanaeth Dydd Gorwelion Newydd fod wrth eu boddau.
Dewiswyd enillwyr categori Ein Harwr gan gydweithwyr, a’r noddwyr oedd yn gyfrifol am ddewis enillwyr y categorïau eraill.
Dyma'r enillwyr:
Ein Harwyr:
- Ysgolion: Jeff Schembri, Ysgol Gynradd Oakfield
- Adnoddau: Lynne Clarke
- Yr Amgylchedd a Thai: Deborah Gibbs
- Gwasanaethau Cymdeithasol: Simon Colston
- Dysgu a Sgiliau: Donna Parker
- Arwr yr Arwyr: Jeff Schembri, Ysgol Gynradd Oakfield
Categorïau ehangach:
- Seren Newydd: Emily Dobson, Swyddog Adfywio - Cyfarwyddiaeth Lleoedd
- Dathlu Amrywiaeth: Amy Auton, Golygydd Gwe - Cyfarwyddiaeth Adnoddau Corfforaethol
- Prosiect Sero: Ailgylchu a Rheoli Gwastraff - Cyfarwyddiaeth yr Amgylchedd a Thai
- Effaith Gymunedol: Tîm Ymateb Grantiau Covid - Cyfarwyddiaeth Adnoddau Corfforaethol/Lleoedd
- Tîm y Flwyddyn: Tîm Adnoddau Cymunedau’r Fro - Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol
- Ysgolion yn Creu Effaith: Ysgol Gynradd Oakfield
- Y Bartneriaeth Allanol Orau Partneriaeth Rheoli Hamdden - Cyfarwyddiaeth yr Amgylchedd a Thai

Mae'r oriel o luniau o'r noson yn cipio pob un o'n henillwyr ar y llwyfan, llawer fel rhan o dimau maen nhw mor amlwg yn poeni'n fawr amdanynt. Mae'r lluniau hefyd yn dangos pa amser gwych oedd gan bawb, a faint roedd yn ei olygu i allu dod at ei gilydd.
Dwi wedi cael sawl neges yr wythnos yma gan gydweithwyr wnaeth fwynhau nos Wener. Efallai mai'r un sy'n crynhoi'r teimladau gorau yw gan Anita Dobson yn ein tîm Gwasanaethau Adeiladu.
Dywedodd Anita: Dw i'n gweithio fel glanhawr yn y Swyddfeydd Dinesig. Mynychais y Gwobrau Staff nos Wener wrth i'r tîm glanhau gael eu henwebu ar gyfer Tîm y Flwyddyn gan Lynne Armstrong. Rwyf wedi gweithio i'r Cyngor ers dros saith mlynedd a dyma oedd ein henwebiad cyntaf erioed oherwydd ymdrechion Lynne. Mae'n gamp fawr i gael eich enwebu a bod ar y rhestr fer.
Fel glanhawyr allwn ni ddim gweithio o adref felly maen nhw wedi bod yn ein hadeiladau bob dydd drwy gydol Covid. Rydym yn cael ein cefnogi gan dîm rheoli gwych sef Haley Fellows, Paul Edwards ac yn enwedig Lynne Armstrong. Rwy'n falch iawn o fod yn rhan o'u tîm a byddwn yn ei werthfawrogi'n fawr os gallwch chi ddangos y gydnabyddiaeth y maen nhw i gyd yn ei haeddu. Maen nhw'n ein cefnogi ni i gyd uwchlaw a thu hwnt ac mae angen tynnu sylw ato.
Does dim byd yn crisialu ysbryd Tîm y Fro’n fwy na chydweithwyr sydd eisiau cael rhywfaint o gydnabyddiaeth i'r rhai sydd wedi eu helpu i gyflawni. Diolch, Anita am gysylltu. Diolch i bawb sydd wedi helpu rhywun yn eu tîm i gyflawni rhywbeth anhygoel.
Am un tro olaf hoffwn longyfarch a diolch i'r holl enwebeion, yn ogystal â'r rhai a gymerodd yr amser i gyflwyno enwebiadau. Hoffwn hefyd ddweud diolch arall i'n noddwyr hael a Gwesty'r Fro a'i gwnaeth yn bosibl i ni gyflwyno digwyddiad o'r radd flaenaf heb unrhyw gost i'r Cyngor. I Miles Punter, ein llywydd ar gyfer y noson, yr enynnodd ei jôcs arferol at ei gydweithwyr UDA chwerthin ac ochneidio! Wrth gwrs, diolch i bawb a brynodd docynnau i fod yn bresennol, a hefyd i'r rhai a gyfrannodd i'r raffl a gododd £1150 ochr yn ochr â £1000 yn ychwanegol o'r ocsiwn i Sefydliad y Maer.
Hoffwn ddiolch yn arbennig hefyd i'r cydweithwyr hynny ar bwyllgor trefnu’r Gwobrau Staff sydd wedi bod yn gweithio'n galed drwy'r flwyddyn i alluogi eu cydweithwyr gael y gydnabyddiaeth y maen nhw'n ei haeddu a noson wych ar yr un pryd. Jo, Tracy, Maria, Hawys, Andy, Carole, Mark, Harriet, Andy, Delyth, Mike, Lloyd, ac Angela yn arbennig a oedd yn cadw trefn ar y prosiect ar ei hyd, diolch yn fawr iawn.

Mewn sawl man arall mae'n bosib bod dychwelyd i'r gwaith ddydd Llun wedi teimlo fel peltan. Yma, roedd yn syth yn ôl i weld gwaith caled ein cydweithwyr yn talu ar ei ganfed i'r rhai sy'n defnyddio ein gwasanaethau. Ddydd Mawrth fe wnaeth Llywodraeth Cymru ddewis Ysgol Uwchradd Whitmore yn Y Barri fel y lleoliad i gyhoeddi rownd newydd o gyllid i gefnogi dysgwyr ag anghenion ychwanegol. Mae canolfan arbenigol adnoddau awtistiaeth yn yr ysgol wedi cael effaith aruthrol ers agor yn 2021. ac roedd yn wych ei gweld yn cael ei defnyddio fel enghraifft o arfer gorau cenedlaethol.
Mae'r wythnos hon hefyd wedi gweld llawer o drafod am rai o'r heriau sydd o'n blaenau. Ddydd Mawrth fe wnes i gynnal sesiwn gyda phob prif swyddog i ystyried sefyllfa ariannol y Cyngor cyn i'r broses o osod cyllideb y flwyddyn nesaf gael ei dechrau yn y Cabinet ddydd Iau. Byddaf yn rhoi mwy o fanylion i chi i gyd am ein safbwynt a'n cynlluniau ar gyfer mynd i'r afael â hyn yn ystod yr wythnosau nesaf. Am y tro, byddaf ond yn dweud, er y gallai fod yn un o'r heriau anoddaf i'r sefydliad hwn eto, ar ôl gweld safon ein staff a arddangoswyd ddydd Gwener diwethaf nid oes gennyf unrhyw amheuaeth y byddwn yn ei hateb.
Yn olaf, hoffwn sôn am Michael Robson yn ein tîm GRhR. Cefais e-bost gan aelod o'r cyhoedd yn gynharach yr wythnos hon a oedd am estyn allan a diolch i Mike am gymryd yr amser i stopio a sgwrsio gyda'i brawd pan oedd yn ofidus iawn. Dangosodd Mike ofal a thosturi at ddieithryn a gyfarfu wrth wneud ei waith ac mae'n debyg iawn iddo achub bywyd. Rwyf wedi ysgrifennu at Mike yn uniongyrchol i rannu'r e-bost a gefais a diolch iddo'n bersonol. Mae'n gennad gwych i'r Fro ac yn esiampl i ni gyd o bwysigrwydd yn fwy na dim arall - bod yn garedig.
Diolch i chi i gyd unwaith eto am eich gwaith yr wythnos hon. Diolch yn fawr iawn.
Rob.