Siarad am y menopos!

Menopause cafe CyMae Cyngor Bro Morgannwg wedi ymrwymo i gefnogi staff yn y gweithle ac mae'n cynnig Caffi Menopos dan arweiniad Adnoddau Dynol gyda chefnogaeth Iechyd Galwedigaethol i bob cyflogai.

Caiff y caffi ei chynnal ar Ddiwrnod Menopos y Byd, 18 Hydref, rhwng 12:30pm a 13:30pm a gall pawb sydd am wybod mwy am y menopos a’r cymorth sydd ar gael fynd iddi.

Thema Diwrnod Menopos y Byd 2022 yw Gwybyddiaeth a Hwyliau (Ymennydd Niwlog a Thrafferthion Cof) yn y Menopos.

Mae'r Cyngor yn cydnabod y bydd cyfran fawr a chynyddol o'i weithwyr yn gweithio drwy'r menopos ac ymhell y tu hwnt i'r menopos ac mae am i bawb ddeall beth yw'r menopos a gallu siarad amdano'n agored a heb embaras.

Bydd y caffi menopos yn gyfle i chi:

  • ddweud wrthym yr hyn mae’r menopos yn ei olygu i chi
  • dysgu mwy am symptomau’r menopos
  • rhannu eich profiadau
  • dysgu sut i gefnogi staff yn y gwaith

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y sesiwn, cysylltwch â’r adran Iechyd Galwedigaethol:

01446 709121

OHadmin@valeofglamorgan.gov.uk

Diwrnod Menopos y Byd

Nod Diwrnod Menopos y Byd yw codi ymwybyddiaeth o’r menopos a chefnogi opsiynau i wella iechyd a lles menywod yng nghanol eu bywydau a thu hwnt.

Thema Diwrnod Menopos y Byd 2022 yw Gwybyddiaeth a Hwyliau (Ymennydd Niwlog a Thrafferthion Cof) yn y Menopos. Bydd y caffi’n gyfle i ystyried sut mae hyn yn effeithio ar fenywod a theuluoedd a’r cymorth y byddai cyflogeion am iddo fod ar gael yn y gwaith.

Mae ymennydd niwlog yn ystod y menopos yn grŵp o symptomau sy'n digwydd tuag adeg y menopos, gan gynnwys anhawster cofio geiriau a rhifau, aflonyddwch mewn bywyd bob dydd (colli eitemau fel allweddi), trafferth canolbwyntio (yn bell eich meddwl, colli trywydd meddwl, cael tynnu eich sylw'n haws), anhawster newid rhwng tasgau, anghofio'r rheswm dros wneud rhywbeth (fel pam y daethoch i mewn i ystafell), ac anghofio apwyntiadau a digwyddiadau.

I gael mwy o wybodaeth am symptomau’r menopos gan gynnwys ymennydd niwlog, mae nifer o sefydliadau sy’n cynnig gwybodaeth a chymorth:

International Menopause Society

British Menopause Society

Menopause Matters