Digwyddiad Rhwydwaith Lles 2022

Yn gynharach yn yr wythnos, cynhaliodd y Cyngor Ddigwyddiad Rhwydwaith Lles yng Nghanolfan Gelfyddydau’r Memo, y Barri.

Wedi'i drefnu gan y Tîm Partneriaeth Plant a Phobl Ifanc, daeth dros 40 o sefydliadau a gwasanaethau i'r digwyddiad, gan gynnwys Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd y Fro, NSPCC a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro.

Roedd y diwrnod yn gyfle i broffesiynau sy’n gweithio gyda theuluoedd a phobl ifanc ddysgu am y cymorth sydd ar gael yn y Fro a sut i gyfeirio dinasyddion ato.

 

Cymorth sydd ar gael

Yn y Fro, mae ‘na gyfeirlyfr amrywiol o wasanaethau lles ar gael i deuluoedd a phobl ifanc hyd at 25 oed.

  • Cyngor Bro Morgannwg

    Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd

    Mae GGiD yn cynnig gwybodaeth am gymorth i deuluoedd, gofal plant a gweithgareddau yn y Fro.

     

    Family Information Service (FIS) 

     

    Y Gwasanaeth Ieuenctid

    Mae Gwasanaeth Ieuenctid y Fro yn cynnig cyfleoedd anffurfiol i bobl ifanc 11-25 oed ar draws Bro Morgannwg i'w cefnogi i gyflawni eu potensial llawn. 

     

    Vale Youth Service

     

    Llesiant Ieunctid

    Bydd Gwasanaeth Lles Pobl Ifanc y Fro yn cynnig cymorth wedi ei dargedu i bobl ifanc sydd wedi wyneb profiadau plentyndod sydd yn effeithio’n sylweddol ar eu lles cymdeithasol ac emosiynol. 

     

    Youth Wellbeing Service

     

    Gwasanaeth Rhianta’r Fro

    Mae’r gwasanaeth yn rhoi cymorth i deuluoedd â phlant a phobl ifanc rhwng 0-18 ledled Bro Morgannwg, er mwyn adeiladu ar gryfderau a gwneud newidiadau cadarnhaol a galluogi rhieni i deimlo’n fwy hyderus wrth reoli ymddygiad, trefniadau dydd i ddydd a ffiniau. 

     

    Vale Parenting Service

     

    Dechrau’n Deg 

    Cynllun gan Lywodraeth Cymru i gefnogi teuluoedd er mwyn rhoi dechrau da mewn bywyd i blant yw Dechrau’n Deg.  

     

    Flying Start

     

    Sports Development Team

    Nod y Tîm Datblygu Chwaraeon yw cynyddu nifer y bobl sy’n cymryd rhan mewn cyfleoedd chwaraeon a gweithgaredd corfforol er mwyn gwella’u hiechyd a’u llesiant. 

     

    Sports Development Team

     

    Clwb Gwyliau Teuluoedd yn Gyntaf

    Rydym yn cynnig cyfleoedd chwarae i blant rhwng 4 ac 11 oed sydd ag anableddau neu anghenion ychwanegol ac sy'n byw ym Mro Morgannwg. Cyflwynir y cynllun yn ystod gwyliau'r ysgol.

     

    Families First Holiday Club

     

    Sustainable communities for learning

    Nod rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif y Cyngor yw darparu buddion cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd hirdymor i ysgolion ac i’r gymuned ehangach.  

     

    21st Century Schools programme

     

    Vale communities for work

    Mae'r rhaglen sy’n rhad ac am ddim yn helpu ceiswyr gwaith a’r rhai sydd am fod yn hunan-gyflogedig i gyflawni eu nodau gyda chymorth arbenigol. 

     

    Vale communities for work

     

    Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid

    Mae’r Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid (GTI) yn gweithio gyda phobl ifanc rhwng 8 ac 17 oed sy’n troseddu neu sydd mewn perygl o droseddu, a dioddefwyr eu troseddau.

     

    Youth Offending Service

     

    Addysg Oedolion a Chymunedol

    Mae Gwasanaeth Dysgu Oedolion yn y Gymuned yn cydnabod gwrth dysgu gydol oes, ac yn parhau i ymrwymo i ddarparu ystod eang o gyfleoedd addysgiadol. 

     

    Adult Learning Service

     

    Vale Libraries

    Mae llyfrgelloedd y Fro yn hybu lles ymhlith trigolion ac yn cynnig llawer o lyfrau a gwasanaethau all helpu.

     

    Vale libraries

  • Partneriaid

    Cardiff & Vale Public Health Board

    Cynllun Ysgolion Iach
    Mae Cynllun Ysgolion Iach Bro Morgannwg yn rhan o Gynllun Ysgolion Iach - Rhwydwaith Cymru. Ei nod yw hybu a diogelu iechyd a llesiant corfforol, emosiynol a chymdeithasol plant a phobl ifanc ym Mro Morgannwg.  


    Bwyta'n Iach a Bwyd Cynaliadwy
    Mae Tîm Iechyd y Cyhoedd Caerdydd a'r Fro yn gweithio ar fentrau i helpu pobl Caerdydd a Bro Morgannwg i wella eu dewisiadau bwyd, yn ogystal â sicrhau bod ganddynt fynediad at fwyd iachach.


    Gwasanaeth Lles Emosiynol
    Mae'r gwasanaeth yn hyrwyddo lles cadarnhaol ac yn darparu'r offer i bobl ifanc gryfhau eu cadernid emosiynol a mynd i'r afael â meddyliau negyddol ac ymddygiadau di-fudd. 


    Gair amdanom ni
    Mae'r Gwasanaeth Therapi Lleferydd ac Iaith Plant yn gweithio gyda theuluoedd, staff addysg  a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill i gefnogi sgiliau lleferydd, iaith, cyfathrebu a bwydo plant. 


    Gwasanaeth Niwroddatblygiadol
    Mae'r Gwasanaeth Niwroddatblygiad Plant a Phobl Ifanc yn darparu asesiad, ymyriad, gwybodaeth a chyngor amlddisgyblaethol i blant a phobl ifanc sydd ag anhwylder niwroddatblygiadol efallai, a'u teuluoedd.  

     

    Cardiff & Vale Public Health Board

     

    Shared Regulatory Services (SRS)

    Mae’r Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir (GRhR) yn archwilio ac yn adnabod achosion clefydau heintus er mwyn atal iddyn nhw ledaenu ar draws Pen-y-bont ar Ogwr, Caerdydd a Bro Morgannwg.

     

    Communicable Diseases

     

    Glamorgan Voluntary Services

    Mae Gwasanaethau Gwirfoddol Morgannwg yn elusen annibynnol sy’n helpu i wella ansawdd bywyd pobl a chymunedau drwy gefnogi gwirfoddolwyr, cyfleoedd gwirfoddoli a grwpiau gwirfoddol.

     

    GVS

     

    YMCA

    Cynhalwyr Ifanc

    Mae prosiect gofalwyr ifanc Bro Morgannwg yn cael ei gynnal gan yr YMCA ac ar hyn o bryd mae'n cefnogi bron i 55 o ofalwyr ifanc ledled y Sir. Ariennir y prosiect hwn gan Gyngor Bro Morgannwg. 

     

    Young Carers Support

     

    YMCA Healthy Relationships

    Gwasanaeth iechyd rhywiol a pherthnasoedd arbenigol a chyfrinachol yn benodol ar gyfer pobl ifanc 11-25 oed yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg. 

     

    Healthy Relationships Service

     

    Barnardo's

    Gwasanaethau Barnardo's yn y Fro

    Mae gwasanaeth Cwnsela Barnardo's yn gweithio gyda phobl ifanc 10-19 oed er mwyn darparu lle diogel iddyn nhw siarad am fywyd, teimladau, a'u sefyllfa bresennol.

     

    School based counselling

     

    Gwasanaeth Reflect Barnardo's

    RMae Reflect yn darparu cefnogaeth i fenywod (a phartneriaid) sydd wedi cael un neu fwy o blant wedi eu tynnu o'u gofal yn barhaol. 

     

    Reflect Service

     

    Dewis

    Dewis Cymru YW’R lle i fynd os ydych chi eisiau gwybodaeth neu gyngor am eich llesiant – neu eisiau gwybod sut allwch chi helpu rhywun arall.

     

    Dewis Cymru

     

    PACE

    Elusen genedlaethol yw PACE sy'n gweithio i gadw plant yn ddiogel rhag cael eu hecsbloetio trwy gefnogi eu rhieni, amharu ar y troseddwyr a gweithio mewn partneriaeth â'r heddlu a gwasanaethau teulu.

     

    PACE 

     

    Atal Y Fro

    Atal y Fro – helpu teuluoedd i dorri’r cylch trais a cham-drin domestig.

     

    Atal Y Fro

     

    Llinell Gyngor Teuluoedd yn Gyntaf

    Mae Llinell Gyngor Teuluoedd yn Gyntaf yn pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer rhieni, gofalwyr a phobl broffesiynol sydd gan, neu sy'n gweithio gyda phlant 0-18 oed sy'n byw ym Mro Morgannwg. 

     

    Families First Advice Line 

     

    Gyrfa Cymru

    Mae Llinell Gyngor Teuluoedd yn Gyntaf yn pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer rhieni, gofalwyr a phobl broffesiynol sydd gan, neu sy'n gweithio gyda phlant 0-18 oed sy'n byw ym Mro Morgannwg. 

     

    Careers Wales

     

    Cyngor ar Bopeth

    Mae Llinell Gyngor Teuluoedd yn Gyntaf yn pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer rhieni, gofalwyr a phobl broffesiynol sydd gan, neu sy'n gweithio gyda phlant 0-18 oed sy'n byw ym Mro Morgannwg. 

     

    Citizens Advice


    Vale, Valleys & Cardiff Adoption

    Waeth beth fo’ch sefyllfa mae ein tîm bob amser ar gael i ateb unrhyw gwestiynau a thrafod unrhyw ddisgwyliadau neu amheuon a allai fod gennych.

     

    Vale, Valleys & Cardiff Adoption


    Cymraeg I Blant

    Fel sefydliad sy’n angerddol ynglŷn â rhoi cyfle i bob plentyn chwarae, dysgu a thyfu trwy’r Gymraeg rydym yn falch iawn o’n cynllun Cymraeg i Blant.

     

    Cymraeg I Blant


    Llamau

    Cenhadaeth Llamau yw dileu digartrefedd i bobl ifanc a menywod sy'n agored i niwed.

     

    Llamau

     

    Bridgend Samaritans

    Mae Samariaid Pen-y-bont ar Ogwr yn darparu gwasanaeth gwrando dros y ffôn, drwy e-bost ac wyneb yn wyneb bob dydd o'r wythnos, gan gynnwys penwythnosau a dros nos.

     

    Bridgend Samaritans

    Platfform

    Rydym yn gweithio gyda phobl sy’n wynebu heriau iechyd meddwl, a gyda chymunedau sydd eisiau creu mwy o synnwyr o gysylltiad, perchnogaeth a lles yn y lleoedd y maen nhw’n byw ynddynt.

     

    Platfform

    Ty Hafan

    Tŷ Hafan aims to meet all of the needs of life-limited children, young people and their families, at every step of their difficult journeys.


    Ty Hafan

     

    Action for Children

    Mae Gweithredu dros Blant yn diogelu a chefnogi plant a phobl ifanc drwy ddarparu gofal a chefnogaeth ymarferol ac emosiynol.

     

    Action for Children

    Bullies Out

    Drwy weithdai rhyngweithiol a rhaglenni hyfforddi, mae Bullies Out yn canolbwyntio ar ymwybyddiaeth, atal, meithrin empathi a pherthynas gyfoedion gadarnhaol. 

     

    Bullies Out

     

    NSPCC

    Mae NSPCC yn gweithio i atal camdriniaeth, helpu ailadeiladu bywydau plant a chefnogi teuluoedd.  

     

     

    NSPCC

     

    BEAT

    Cenhadaeth BEAT yw rhoi diwedd ar y boen a'r dioddefaint sy'n cael ei achosi gan anhwylderau bwyta. 

     

    BEAT

     

    Luna Play Therapy

    Mae Luna Play Therapy yn darparu cymorth cwnsela therapiwtig i blant a'u teuluoedd.

     

     

    Luna Play Therapy

     

    Ysgol Y Deri

    Mae tîm Allgymorth Ysgol y Deri o gynghorwyr addysg a chynorthwywyr cymorth dysgu arbenigol yn gweithio mewn partneriaeth ag Ysgolion Bro Morgannwg i greu amgylcheddau prif ffrwd sy'n addas i awtistiaeth.

     

    Engagement Services - Ysgol Y Deri