Mis Hanes Pobl Dduon Hydref 2022

Mis Hydref yw Mis Hanes Pobl Dduon. Nod y dathliad cenedlaethol hwn yw hyrwyddo a dathlu cyfraniadau Pobl Dduon i gymdeithas Prydain, a meithrin dealltwriaeth o hanes Pobl Dduon yn gyffredinol.
Mae Mis Hanes Pobl Dduon ym mis Hydref yn un o sawl gwaith drwy gydol y flwyddyn pan allwn gydnabod a dathlu cyfraniadau'r gymuned ddu. Mae hefyd yn amser i weithredu yn erbyn hiliaeth a gwahaniaethu, adennill hanes Pobl Dduon, a sicrhau ei fod yn cael ei gynrychioli a'i ddathlu drwy'r flwyddyn.
Y thema eleni yw 'Amser Newid: Gweithredu Nid Geiriau'. Mae hyn yn adlewyrchu'r ffaith, er ei bod yn bwysig dysgu o hanes, bod angen i ni ddefnyddio'r ddealltwriaeth hon i sicrhau newid cadarnhaol.
Gall pob un ohonom chwarae rhan wrth sicrhau newid cadarnhaol. Gallwn fod yn gynghreiriaid. Ond beth yw cynghreiriad da? Beth gallwch chi ei wneud i wneud gwahaniaeth?
Un ffordd o wneud hyn yw ymuno â'r rhwydwaith staff Amrywiol ar gyfer cydweithwyr a chynghreiriaid du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig. Gallwch fod yn rhan o'r camau cadarnhaol y mae'r grŵp hwn yn eu cymryd – e-bostiwch diverse@valeofglamorgan.gov.uk i ddarganfod mwy.
Un arall sydd i fynd yn anghyfforddus! Darllenwch erthygl Nova Reid fydd yn peri i chi feddwl 'No more white saviours, thanks: how to be a true anti-racist ally' neu ei llyfr 'The Good Ally'.
Gallwn addysgu ein hunain am hanes a diwylliant pobl dduon fel ein bod yn fwy gwybodus a deall y materion y mae pobl dduon yn eu hwynebu. Mae yna lawer o ffyrdd y gallwch chi wneud hyn, gan gynnwys:
- Darllenwch rai llyfrau fel 'Black and British’ gan David Olusoga, neu 'Why I'm no Longer Talking to White People about Race' gan Reni Eddo-Lodge.
- Edrychwch am newyddion am lansiad clwb llyfrau rhwydwaith Staff Amrywiol.
Bydd mwy o newyddion am yr hyn sy'n digwydd ym Mis Hanes Pobl Dduon yn ystod yr wythnosau nesaf, felly cadwch lygad.