Santas Cause SN Banner

Sefydlu Achos Siôn Corn!

Yr wythnos diwethaf, gwnaeth cydweithwyr o bob rhan o’r Cyngor lansio ‘Achos Siôn Corn', ymgyrch codi arian a rhoi anrhegion a fydd, gobeithio, yn dod â llawenydd i lawer o deuluoedd yn y Fro y Nadolig hwn.

Mae ein tîm Gwasanaethau Cymdeithasol yn amcangyfrif bod cynifer â 1500 o blant a phobl ifanc y maen nhw'n eu cefnogi yn debygol o fod heb ddim ar Ddydd Nadolig.

Santa's Cause Donations (Week One)

Yng ngwir ysbryd y Fro, rydym yn benderfynol o newid hyn!

Ers lansio Achos Siôn Corn, rydym wedi cael ein boddi gan negeseuon brwdfrydig o gefnogaeth ac mae'r anrhegion wedi dechrau dod i law.

Rydym yn galw ar gydweithwyr i ddod at ei gilydd a sicrhau nad oes yr un plentyn yn mynd heb ddim eleni.

O fewn wythnos i lansio Achos Siôn Corn rydym wedi cael dros 50 o anrhegion! Diolch!

Os ydych am gyfrannu anrheg at Achos Siôn Corn, gallwch wneud hynny drwy ddod ag anrheg heb ei lapio i un o’n pwyntiau gollwng. Gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth am roi anrhegion ar y Dudalen SN+ Achos Siôn Corn.

Fel arall, os hoffech wneud rhodd ariannol i Achos Siôn Corn, gallwch wneud hynny wrth y ddesg arian yn y Swyddfeydd Dinesig.

Gyda chost gynyddol ynni, tanwydd a bwyd, bydd llawer o gydweithwyr yn poeni yn ddealladwy am dalu am eu Nadolig eu hunain ac ni fyddant mewn sefyllfa i gyfrannu at Achos Siôn Corn.

Os ydych am gymryd rhan, gallwch gefnogi Achos Siôn Corn heb unrhyw gost drwy rannu'r ymgyrch ar y cyfryngau cymdeithasol.

Rydym wedi cynhyrchu cronfa o negeseuon a graffeg cyfryngau cymdeithasol y gallwch eu defnyddio i ledaenu'r gair ymhlith teulu a ffrindiau.

Gan mai ymgyrch staff yw hon, os ydych chi am dynnu sylw at ein hachos gwych ar y cyfryngau cymdeithasol, gwnewch hi'n glir i deulu a ffrindiau y dylent gyfrannu drwyddoch chi os ydyn nhw am wneud hynny.

Ni fydd aelodau'r cyhoedd yn gallu dod ag anrhegion a/neu wneud taliad arian parod.

Lawrlwytho Pecyn Adnoddau Achos Siôn Corn

Gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth am roi anrhegion ar y dudalen SN+ Achos Siôn Corn:

Achos Siôn Corn

Diolch am eich cefnogaeth!