Galwch heibio Glinig Brechiad Ffliw

Bydd yr Adran Iechyd Galwedigaethol yn cynnig clinig galw heibio brechiad ffliw yn ystod yr wythnosau nesaf. 

Mae’n agored i holl staff Cyngor Bro Morgannwg, p'un a ydych yn gweithio mewn rôl rheng flaen, mewn swyddfa neu gartref, neu yn un o ysgolion y Cyngor. 

Mae'r clinig ar agor rhwng 01 Rhagfyr a 08 Rhagfyr a bydd yn cael ei gynnal yn yr Adran Iechyd Galwedigaethol yn y Swyddfeydd Dinesig.  Mae’r holl sesiynau yn rhai galw heibio felly nid oes angen trefnu apwyntiad.

  • Dydd Iau 01 Rhagfyr 2022, 8.30am – 12pm
  • Dydd Gwener 02 Rhagfyr 2022, 8.30am – 10am
  • Dydd Llun 05 Rhagfyr 2022, 8.30am – 12pm
  • Dydd Mawrth 06 Rhagfyr 2022, 8.30am – 12pm
  • Dydd Iau 08 Rhagfyr 2022, 8.30am – 12pm

Gallwch lenwi ffurflen ganiatâd cyn mynychu neu fel arall, gallwch roi eich caniatâd yn y clinig.

Corportate consent form

School staff consent form