Ymestyn y dyddiad cau ar gyfer Pencampwyr Oracle Fusion


Bydd y ffordd y mae'r holl staff yn cael gafael ar wybodaeth am eu cyflog, eu manylion personol, a llawer mwy yn newid cyn bo hir.

Mae disgwyl i'n system newydd sy’n seiliedig ar y cwmwl, Oracle Fusion, lansio'r mis Rhagfyr eleni, gan ddisodli'r system Oracle bresennol.

Gallwch ddefnyddio Oracle Fusion i weld eich slipiau cyflog, gwybodaeth bersonol, cofnodi treuliau a llawer mwy.

Gobeithio y byddwch chi wedi gweld un o'r eitemau newyddion diweddar yn galw am wirfoddolwyr i gofrestru fel Pencampwyr Oracle Fusion, ein llinell gyntaf o gefnogaeth ar lawr gwlad ar gyfer cyflwyno Oracle Fusion.

Os oes gennych ddiddordeb mewn gwirfoddoli ond heb gofrestru eto, peidiwch â phoeni - rydym yn ymestyn y dyddiad cau ar gyfer cofrestru i'r 18 Tachwedd 2022.

Felly beth mae bod yn Bencampwr Oracle Fusion yn ei gynnwys?

I helpu gyda chyflwyno'r system newydd, rydym yn chwilio am wirfoddolwyr sy’n dda o ran technoleg.

Rydym yn chwilio am grŵp o wirfoddolwyr cyfeillgar, amyneddgar sy'n dda o ran egluro cyfrifiaduron heb ddefnyddio jargon ac sy'n frwdfrydig am bob peth yn ddigidol.

Bydd gofyn i chi fynychu sesiwn hyfforddi hanner diwrnod, byddwch yn cael hyfforddiant llawn i sicrhau eich bod yn gyfforddus gyda'r system cyn Mynd yn Fyw a bydd gennych fynediad at yr holl gymorth a'r gefnogaeth sydd ei angen arnoch.

Sut gallwch gefnogi?

Cymorth rheng flaen gyda chwestiynau System Oracle Fusion, megis; 

  • Materion Llywio
  • Newid Gwybodaeth Bersonol
  • Cwblhau Ffurflenni
  • Cael Mynediad at Dreuliau
  • Cael Mynediad at Slipiau Cyflog

Mynegwch eich diddordeb drwy e-bostio eich enw, teitl swydd, a thîm i: fusion@valeofglamorgan.gov.uk.

Am fwy o wybodaeth am Oracle Fusion, sicrhewch eich bod yn ymweld â'r hyb.

Os hoffech chi wybod mwy am sut y gallai Oracle Fusion eich helpu chi yna cysylltwch â ni.

E-bost: fusion@valeofglamorgan.gov.uk