Ymchwiliad Cyhoeddus Covid-19 – Polisi Cadw Data

Cafodd Ymchwiliad Covid-19 ei sefydlu er mwyn edrych ar ymateb y DU i bandemig Covid-19 ac effaith hynny.

Mae'n bwysig bod y Cyngor yn gweithio ochr yn ochr ag awdurdodau lleol eraill i roi cefnogaeth a thryloywder trwy gydol yr ymchwiliad.

Bydd y Polisi Cadw Data yn sicrhau bod dogfennau a chofnodion perthnasol ar gael ac yn hawdd eu cyrraedd fel bod y Cyngor yn gallu ymateb yn gyflym i geisiadau am wybodaeth.

Cyfarwyddir pob cydweithiwr ar unwaith i atal unrhyw brosesau dileu a dinistrio dogfennau mewn perthynas â gwybodaeth am bandemig Covid-19 am gyfnod yr ymchwiliad hyd nes y clywir yn wahanol.

Nodwch fod 'Dogfen' yn cynnwys unrhyw ffeil neu gofnod go iawn neu anghyffwrdd lle cofnodir gwybodaeth. Gallai hyn fod yn unrhyw beth, o ffurflenni papur i recordiadau sain. Gallwch gael rhagor o fanylion yn y Polisi.

Yn unol â’r Polisi Cadw Data, mae Prif Weithredwr ac Arweinydd y cyngor wedi cyhoeddi Hysbysiad Cadwedigaeth, gyda manylion yr hyn sy'n ddisgwyliedig gan gydweithwyr.

Er mwyn sicrhau bod yr holl staff yn ystyried y Polisi, yn ddiweddarach yn yr wythnos bydd y Polisi yn cael ei ddosbarthu drwy Metacompliance.  Wrth fewngofnodi i'ch dyfais gorfforaethol, byddwch yn cael eich ysgogi i ddarllen y Polisi a chadarnhau eich bod wedi ystyried y wybodaeth.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â'r tîm Llywodraethu Gwybodaeth: