Staffnet+ >
Mae amser o hyd i gyflwyno'ch enwebiadau

Y diweddaraf am y Gwobrau Staff
Mae amser o hyd i gyflwyno'ch enwebiadau!
Wrth i'r Gwobrau Staff agosáu, rydym yn falch o gyhoeddi manylion diweddaraf y digwyddiad.
Mae dwsinau o enwebiadau wedi'u cyflwyno ar draws y categorïau ond mae amser o hyd i chi gyflwyno'ch un chi.
Peidiwch ag anghofio bod nifer o gategorïau newydd eleni. Rydym wedi cyflwyno rhai categorïau newydd i'r gwobrau sy'n cydnabod prosiectau sydd ar flaen agenda'r Cyngor.
Mae gwobr Prosiect Sero yn agored i staff ar draws y sefydliad - gallai hyn fod yn unigolyn neu'n dîm sydd wedi cyfrannu at ein nod o gyflawni allyriadau sero-net erbyn 2030. Rydym yn chwilio am brosiectau neu ddulliau gweithredu sydd wedi helpu i leihau allyriadau, annog bioamrywiaeth neu ddylanwadu ar newid.
Gall Dathlu Amrywiaeth ac Ymgysylltu fod ar gyfer timau neu unigolion sydd wedi gwella ein cymunedau - gallai hyn fod trwy gefnogi pobl sy'n agored i niwed neu fynd i'r afael â materion fel tlodi bwyd, iechyd meddwl a lles neu adferiad yn sgil Covid.
Mae enwebu cydweithiwr yn ffordd wych iddynt gael y gydnabyddiaeth y maent yn ei haeddu. Buom yn siarad ag un o'n henillwyr blaenorol, Jo Lewis, am ei phrofiad. Enillodd Jo Weithiwr y Flwyddyn yng ngwobrau 2018. Dwedodd:
"Cefais fy enwebu gan fy nghydweithwyr a'm tîm, a oedd yn brofiad arbennig iawn a wnaeth i fi deimlo’n ostyngedig iawn. Rwyf bob amser wedi dweud na fyddwn yn gallu gwneud fy swydd hebddynt ac roedd y ffaith eu bod ar bob ochr i fi pan alwyd fy enw yn gwneud y cyfan yn fwy arbennig.
"Roedd hefyd yn anrhydedd i mi fod yn rhan o sefydlu'r gwobrau. Mae llawer o waith caled yn digwydd ar draws adrannau i wireddu hyn. Mae bob amser yn her, ond mae’n hollol werth chweil gweld y cyfan yn dod at ei gilydd.
"Byddaf yn dweud - cyflwynwch eich enwebiad, ewch i'r digwyddiad ac, os yw'r ddwy flynedd ddiwethaf wedi dangos unrhyw beth i ni - dylech chi fwynhau!"
Diolch Jo.
Bydd y seremoni ei hun hefyd yn gyfle gwych i ddod at ei gilydd gyda'ch tîm a dal i fyny â'r rhai nad ydych efallai wedi'u gweld ers peth amser.
Mae'r manylion yn dal i gael eu cwblhau ond rydym yn falch iawn o allu datgelu y bydd mwy o docynnau ar gael nag erioed eleni – 250! – a, thrwy garedigrwydd ein noddwyr, byddant yn costio hyd yn oed yn llai - sef £10 yn unig. Bydd staff hefyd yn cael mynediad â blaenoriaeth i nifer o ystafelloedd am bris llai yng Ngwesty'r Fro. Bydd rhagor o fanylion am sut i archebu yn cael eu rhyddhau'n fuan.
Bydd yr enwebiadau'n cau ar 10 Mehefin, felly cyflwynwch eich enwebiadau cyn gynted â phosibl.
Enwebu Cydweithiwr