Staffnet+ >
Ein Taith Milltiroedd Ar Gyfer Wcráin
Ein Taith Milltiroedd Ar Gyfer Wcráin
Annwyl Gydweithwyr,
Yn sgil golygfeydd gofidus yn Ukrain, daeth enghreifftiau diymhongar i law o ysbryd cymunedol ac o ddod ynghyd mewn ymdrech ar y cyd i gefnogi'r miliynau o bobl sydd wedi dianc o'u cartrefi er mwyn dianc rhag y gwrthdaro.
Rwy’n falch ein bod wedi gallu chwarae rhan yn hyn.
Ers lansio ein hymgyrch Milltiroedd dros Wcráin, rydym unwaith eto wedi dangos y daioni y gallwn ei gyflawni fel sefydliad.
Mae staff o bob rhan o'r Cyngor wedi taflu eu hunain at yr her ac yn ôl ym mis Mawrth fe wnaethom chwalu ein targed gwreiddiol o 1,775 o filltiroedd.
Mae ein cloc milltiroedd bellach wedi cyrraedd y pellter anhygoel o 4,297.64 milltir.
Ynghyd â'r arian a godwyd gan Ysgolion ar draws y Fro, rydym gyda'n gilydd wedi codi'r swm anhygoel o £13,923 ar gyfer Apêl Dyngarol Wcráin y Pwyllgor Argyfyngau Brys (DEC).
Mae elusennau’r DEC a'u partneriaid lleol yn Wcráin ac ar draws y ffin yn y gwledydd cyfagos, yn gweithio i ddiwallu anghenion brys pawb sy'n ffoi, gan gynnig bwyd, dŵr, cymorth meddygol, gwarchodaeth a gofal trawma.
Bydd rhoddion i'r apêl hon hefyd yn helpu pobl yr effeithir arnynt gan y gwrthdaro i ailadeiladu eu bywydau yn y misoedd a'r blynyddoedd i ddod.
Dywedodd Saleh Saeed, Prif Swyddog Gweithredol y Pwyllgor Argyfwng Trychinebau, "Mae pob cam a gymerir yn arwydd pwerus o gefnogaeth i’r bobl yr effeithir arnynt gan y gwrthdaro yn Wcráin. Bydd pob punt sy’n cael ei chodi yn helpu i ddiwallu anghenion uniongyrchol a thymor hwy teuluoedd yn Wcráin a gwledydd cyfagos wrth iddynt wynebu dyfodol ansicr. Diolch”
Os ydych yn dal i ddymuno cyfrannu i’r apêl, nid yw'n rhy hwyr. Mae Tudalen Just Giving Milltiroedd dros Wcráin yn parhau ar agor.
Wrth i Milltiroedd Dros Wcráin ddod i ben, mae'n bwysig ein bod yn myfyrio ar ein cyflawniad.
Ein Taith Milltiroedd Ar Gyfer Wcráin
Dros gyfnod o chwe wythnos rydym wedi cyrraedd 138 o gyflawniadau mewn milltiroedd. Mae wedi bod yn galonogol darllen drwy eich negeseuon, ond mae ychydig o gyfllawniadau sy'n sefyll allan.
Y nifer fwyaf o filltiroedd a gwblhawyd
Mae Jonathan Green wedi beicio, nofio a cherdded 1,103.1 milltir dros Wcráin a mynd â ni dros ein targed gwreiddiol o 1,775 milltir yn ystod wythnos tri.
Y daith bellaf i’w chwblhau i ffwrdd o gartref
Cerddodd Jeanette Winter a'i theulu 180 milltir ar wyliau yn Disney World, Florida. 4,379 milltir o'r DU!
Y daith agosaf at adref i'w chwblhau
Cwblhaodd Lisa Lewis ei milltiroedd drwy wau ei ffordd drwy filltir o wlân o'i hystafell fyw.
Neges orau
Dywedodd Adam Spear "Dwi wedi cwblhau nifer o deithiau cerdded gyda chydweithwyr (ac wedi cofnodi'r rhain ar wahân) sydd wedi bod yn grêt ar ôl gweithio o bell am gyhyd. Mae hon wedi bod yn fenter wych o ran yr hyn y mae'n ceisio'i wneud dros bobl Wcráin ond hefyd i'n lles meddyliol ein hunain. Dylai mwy o filltiroedd fod wedi’u hychwanegu erbyn diwedd yr wythnos!"
Y nifer fwyaf o filltiroedd a gwblhawyd gan gydymaith pedair coes
Cerddodd Suzanne Clifton a'i chi Hugo gyfanswm o 35 milltir ar eu teithiau cerdded dyddiol drwy Ddinas Powys ac ar dripiau i'r traeth.
P'un a wnaethoch gynnal eich cyfarfod tîm ar un o'n traethau neu dreulio'ch awr ginio yn mynd â'r ci am dro, mae cyflwyniad pob milltir, waeth pa mor fawr neu fach, wedi bod yn llwyddiant mawr.
Diolch yn fawr bawb. Llongyfarchiadau am gyflawni rhywbeth gwych.
Rob.