Robs Weekly Round-up header

Annwyl gydweithwyr, 

Gobeithio eich bod chi i gyd yn cadw’n iawn. 

Hoffwn ddechrau'r wythnos hon drwy longyfarch tri o’n gweithiwr cymdeithasol diweddaraf i gymhwyso. Mae Lisa Bowen, Donna Hiley ac Emily Price, sydd i gyd yn rhan o’r Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc, wedi bod yn astudio gyda'r Brifysgol Agored tra hefyd yn gweithio ar yr un pryd. Nid yw cyfuno gwaith ac astudio proffesiynol yn hawdd ac mae'n cymryd ymroddiad ac ymrwymiad. Rwy'n falch bod ein sefydliad yn dod o hyd i ffyrdd o gefnogi'r cydweithwyr hynny sydd am ddatblygu, ac yn falchach fyth o weithio ochr yn ochr â phobl fel Lisa, Donna ac Emily sy'n dangos cymaint o ymrwymiad a brwdfrydedd, i'w proffesiwn ac i'n sefydliad. Da iawn chi gyd, a gobeithio y byddwch chi'n mwynhau eich rolau newydd. 

Miles for Ukraine

Mae cael mwy o bobl i mewn i waith yn ffocws mawr i lawer o'n timau ac mae'n wych clywed y bydd y Cyngor, ar ôl bwlch o ddwy flynedd, yn cynnal Ffair Swyddi wyneb yn wyneb y penwythnos hwn. Am ystod eang o resymau rydym yn gwybod bod cyfraddau swyddi gwag yn y Fro yn uchel iawn ac mae cyflogwyr yn cael anawsterau mawr i gael y staff sydd eu hangen arnynt i gadw busnesau bach a mawr i redeg. Er mwyn helpu i fynd i'r afael â hyn, mae ein tîm Cymunedau am Waith wedi dod â 30 o gyflogwyr a sefydliadau at ei gilydd ar gyfer y digwyddiad awyr agored yn Sgwâr y Brenin. Bydd ein timau yno i gynnig cyngor a chymorth ar ddod o hyd i waith a newid gyrfa, yn ogystal â thrafod y cyfleoedd gyrfa niferus y gall llywodraeth leol eu cynnig, yn enwedig ym maes gofal cymdeithasol. Mae ein timau llyfrgelloedd, parciau a digwyddiadau, yn ogystal â’r Big Fresh Catering Company, i gyd wedi bod yn rhan o’r digwyddiad. Mae'n wych gweld cynifer o dimau'n cydweithio ar fenter a fydd yn fuddiol o ran datblygu economaidd ac yn dod â manteision i fywydau llawer o drigolion.

Mae nifer o'n cydweithwyr hefyd wedi bod yn gweithio ar greu swyddi yr wythnos hon mewn ffordd wahanol iawn. Mae cynlluniau'r Cyngor fel rhan o'r ddinas-ranbarth ar gyfer Gorsaf Bŵer Aberddawan, Canolfan Drafnidiaeth y Barri, parc busnes Bro Tathan, a chyfleoedd buddsoddi yn Nhrwyn Nell i gyd yn cael eu trafod yn y gynhadledd fuddsoddi ryngwladol MIPIM yn Ne Ffrainc yr wythnos hon. Er bod ein tîm Adfywio ac eraill sy'n gysylltiedig i gyd yn gweithio'n lleol, mae'n wych gwybod bod eu hymdrechion yn cael sylw ar lwyfan rhyngwladol.  

PPE team at Cosmeston

Gobeithio erbyn hyn y byddwch i gyd wedi gweld cyhoeddiad dydd Mercher am lansio Milltiroedd ar gyfer Wcráin. Gallwch ddarllen y cyfan amdano ar StaffNet+. Mae wedi bod yn wych gweld y syniad yn datblygu ac yn dod yn fyw mewn ychydig ddyddiau.  Rwyf wedi mynegi fy niolch o'r blaen i gydweithwyr yn y Gwasanaethau Cymdeithasol a gynigiodd y syniad i Dîm Arwain Strategol y Cyngor.  Mae angen i mi hefyd roi clod i bawb a weithiodd gyda'i gilydd i wireddu'r cysyniad – yn enwedig i bawb o fewn ein tîm cyfathrebu a sicrhaodd ein bod yn barod i 'fynd yn fyw' ddydd Mercher yr wythnos hon. 

Mae hefyd yn wych gweld y milltiroedd a'r cyfraniadau’n dechrau dod i mewn.  Mae aelodau ein tîm Cyfarpar Diogelu Personol sydd wedi bod yn gweithio'n galed drwy gydol y pandemig wedi bod yn Cosmeston heddiw wedi’u gwisgo i godi ymwybyddiaeth wrth iddynt redeg a cherdded eu ffordd o amgylch llwybr tair milltir. Gyda chymorth ein tîm Parciau Gwledig maent yn gadael marcwyr ar y ffordd fel y gall eraill ddefnyddio'r un llwybr. Da iawn bawb.

Mae'r rhagolygon tywydd yn edrych yn wych ar gyfer y penwythnos hwn felly os ydych chi wedi gwneud trefniadau, beth am ystyried a allech godi ymwybyddiaeth ar gyfer ein hymgyrch ar yr un pryd. Os felly, rhannwch eich cyflawniadau gyda ni ar StaffNet+ neu drwy ddefnyddio #MilesForUkraine ar y cyfryngau cymdeithasol. Gallwch gofnodi eich milltiroedd ar ôl i chi eu gwneud, waeth pa mor aml, neu ddweud wrthym ymlaen llaw beth rydych wedi'i gynllunio. Beth bynnag rydych chi'n ei wneud, beth bynnag fo'r pellter, gwnewch yn siŵr eich bod yn rhannu ac yn cofnodi eich ymdrechion ar ein tudalennau StaffNet+ fel y gall eraill weld beth y gellir ei gyflawni pan fyddwn yn gweithio gyda'n gilydd.

Os daw'r penwythnos hwn yn rhy fuan neu os ydych am fynd allan eto yr wythnos nesaf bydd ein cydweithwyr CDP hefyd allan ddydd Llun yn nodi llwybrau ym Mhorthceri, Ynys y Barri, Parc Romilly, ac Esplanade Penarth.

Sut bynnag fyddwch chi'n dewis treulio'r penwythnos, rwy'n gobeithio y cewch chi hwyl. Fel bob amser diolch am eich ymdrechion yr wythnos hon. Daliwch ati gyda'r gwaith gwych!   Diolch yn fawr iawn. 

Rob.