Wythnos Gwaith Ieuenctid

23 – 30 Mehefin 2022

Youth Work Week - Llantwit Youth Club

Mae Wythnos Gwaith Ieuenctid yn gyfle i ddathlu'r straeon cadarnhaol a'r llwyddiannau o'r 12 mis diwethaf! Mae'n amser i dynnu sylw at straeon o'r Sector Gwaith Ieuenctid a chydnabod y cyfraniad y mae pawb sy'n gweithio yn y Gwasanaethau Gwaith Ieuenctid wedi'i wneud at bobl ifanc a chymunedau.

Rydym yn defnyddio'r platfform hwn bob dydd o'r wythnos i dynnu sylw at gyflawniadau Gwasanaeth Ieuenctid y Fro, dweud diolch a chynyddu dealltwriaeth o waith ieuenctid.

Ym Mro Morgannwg, mae gennym Wasanaeth Ieuenctid ffyniannus, sy'n cefnogi pobl ifanc 11-25 oed ledled y sir.  Mae amrywiaeth eang o wasanaethau sy'n cynnig y cymorth hwn, o ddarpariaethau cyffredinol mynediad agored fel clybiau ieuenctid a chlybiau ar ôl ysgol, i dimau wedi'u targedu sy'n canolbwyntio ar les, digartrefedd ac atal pobl ifanc NEET.  Mae rhestr lawn o'n gwasanaethau i'w gweld ar ein gwefan.

Youth Work Week - Music Project

Mae'r Gwasanaeth yn gweithio mewn partneriaeth â chydweithwyr mewnol ac allanol i gynnig darpariaeth o safon uchel sy'n diwallu anghenion pobl ifanc ledled y Fro.  Mae pob aelod o staff yn gymwys yn broffesiynol ac wedi'i gofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg, gan helpu i sicrhau bod gwasanaeth o safon yn cael ei ddarparu.

Mae staff o'r gwasanaeth wedi cael eu cydnabod trwy enwebiadau a gwobrau ar amrywiaeth o lefelau yn ystod y flwyddyn ddiwethaf am y gwaith sydd wedi'i wneud trwy'r pandemig ac o fewn y sector gwaith ieuenctid ehangach.  Fel tîm, mae'r Gwasanaeth Ieuenctid hefyd wedi cyflawni'r Marc Ansawdd Efydd ar gyfer gwaith ieuenctid yng Nghymru, gan ddangos rhagoriaeth mewn darpariaeth o ansawdd sydd wedyn wedi'i defnyddio fel astudiaethau achos i wasanaethau ieuenctid eraill ledled Cymru.  Ar hyn o bryd mae'r Gwasanaeth yn gweithio tuag at y Marc Ansawdd Arian, sydd i fod i gael ei asesu ym mis Medi eleni.

Youth Work Week - the hub

Yn ogystal â hyn, dyfarnwyd y Siarter Safonau Cyfranogiad i Wasanaeth Ieuenctid y Fro ym mis Gorffennaf 2021 sy'n dangos ein hymrwymiad i gyfranogiad plant a phobl ifanc.  Yn dilyn hyn, mae'r Gwasanaeth wedi recriwtio aelod newydd o staff yn ddiweddar, i arwain ar brosiectau cyfranogi i helpu i ddatblygu hyn ymhellach dros y blynyddoedd nesaf.

Yn ystod Wythnos Gwaith Ieuenctid, bydd gweithgareddau ychwanegol yn cael eu cynnal mewn ysgolion gan y Tîm Lles Ieuenctid ac mewn darpariaethau clybiau ieuenctid fel rhan o arlwy'r Tîm Cyffredinol.  Bydd y Gwasanaeth hefyd yn hyrwyddo'r gwaith sydd wedi'i wneud gan wahanol dimau eleni, gan gysylltu hyn â thema eleni o'r 5 Ffordd i Les.  Gellir gweld hyn ar ein llwyfannau cyfryngau cymdeithasol, trwy Instagram, Facebook a Twitter.

Os hoffech chi neu'ch tîm gael rhagor o wybodaeth am Wasanaeth Ieuenctid y Fro a ffyrdd posibl y gallwn gefnogi pobl ifanc yn y Fro, cysylltwch â ni:

  • 01446 709308