Staffnet+ >
Mae Arolwg Staff 2022 bellach ar agor

Mae Arolwg Staff 2022 bellach ar agor
Gallwch ddweud eich dweud ar sut y byddwn yn gweithio yn y dyfodol a'r materion sy'n effeithio arnoch chi a'ch cydweithwyr.
Yr arolwg staff yw eich cyfle i ddweud eich dweud ar sut mae'r Cyngor yn cefnogi lles staff, gweithio hyblyg ac amrywiaeth o faterion eraill.
Bydd holl staff Cyngor Bro Morgannwg yn gallu cymryd rhan yn Arolwg Staff 2022, p'un a ydych yn gweithio mewn rôl rheng flaen, mewn swyddfa neu gartref, neu yn un o'n hysgolion. Mae pob ymateb yn ddienw.
Dweud eich dweud nawr
Gellir cwblhau'r arolwg ar unrhyw liniadur neu ffôn symudol sydd â chysylltiad â'r rhyngrwyd.
Os byddwch yn cwblhau'r arolwg ar-lein byddwch yn cael eich cynnwys mewn raffl am ddim a gallech ennill te prynhawn i ddau, pâr o docynnau i berfformiad ym Mhafiliwn Pier Penarth, neu benwythnos yn un o gytiau traeth Ynys y Barri.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am yr Arolwg Staff 2022 ar StaffNet+.
Bydd cydweithwyr heb fynediad at ddyfeisiau TGCh corfforaethol yn cystadlu gan ddefnyddio eu dyfeisiau symudol eu hunain drwy sganio codau QR mewn gwahanol leoliadau yn y Fro.
Cynhelir sesiwn galw heibio hefyd yn Nepo’r Alpau lle bydd copïau caled ar gael i'w cwblhau.
Os oes gennych gwestiynau am yr arolwg, siaradwch â'ch rheolwr llinell yn y lle cyntaf, neu e-bostiwch staffsurvey@valeofglamorgan.gov.uk.