Yr Wythnos gyda Rob
01 Mehefin 2022
Annwyl gydweithwyr,
Gobeithio eich bod chi gyd yn iawn ar drothwy penwythnos gŵyl banc.
Fel bob amser, er y bydd yr wythnos waith fyrrach yn caniatáu llawer o amser i ddadflino a bydd llawer yn edrych ymlaen at fwynhau'r egwyl gyda ffrindiau a theulu, bydd llawer o'n cydweithwyr yn parhau i weithio’n galed. Rwyf am gydnabod y rheini mewn gwasanaethau rheng flaen a’n gweithio y tu ôl i'r llenni i alluogi trigolion ac ymwelwyr i fwynhau popeth sydd ar gael ym Mro Morgannwg yn y dyddiau nesaf.
Mae digwyddiadau ledled y Fro yn cael eu cefnogi gan gydweithwyr o'n timau Twristiaeth, Gwasanaethau Cymdogaethau a Chyfathrebu, yn ogystal â llawer o gydweithwyr eraill mae’n siŵr. Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am rai o'r digwyddiadau gwych sy'n cael eu cynnal ledled y sir ar wefan Ymweld â’r Fro, yn ogystal â gwybodaeth am sut i fwynhau'r penwythnos hir ac unrhyw newidiadau i wasanaethau ar ein ffrydiau cyfryngau cymdeithasol.
Hoffwn ddiolch hefyd i bawb sy'n gweithio mewn meysydd fel y Gwasanaethau Cymdeithasol lle nad yw eu gwaith i gefnogi preswylwyr yn dod i ben a'r rhai sy'n gweithio yn ein timau gwastraff ac ailgylchu sy'n parhau i weithio o dan bwysau staffio aruthrol. Diolch bawb am bopeth.
Diolch i chi i gyd am eich ymrwymiad a'ch ymroddiad i wasanaeth cyhoeddus.
Beth bynnag rydych chi'n ei wneud y penwythnos gŵyl banc hwn, mwynhewch. Fel bob amser, diolch i chi i gyd am eich gwaith yr wythnos hon.
Diolch yn fawr.
Rob.