Staffnet+ >
Yr Wythnos gyda Rob 10 Mehefin 2022
Yr Wythnos gyda Rob
10 Mehefin 2022
Annwyl gydweithwyr,
Gobeithio eich bod yn cadw’n iawn.
Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi gwneud cam sylweddol iawn ymlaen yr wythnos hon. Yn fy neges ar 20 Mai dywedais, yn dilyn sgyrsiau gyda staff a’r Uwch Dîm Rheoli, fy mod yn gobeithio y gallem symud yn gyflym i gefnogi'r cydweithwyr hynny sy'n debygol o ddioddef fwyaf gan y costau byw cynyddol. Ddoe yng nghyfarfod cyntaf y Cabinet newydd, cytunwyd y byddai'r Cyngor yn cynyddu cyflog y staff hynny ar raddau un a dau i sicrhau eu bod yn cyd-fynd â'r Cyflog Byw Gwirioneddol. Bydd y rhai ar ddwy radd gyntaf graddfa'r Cyngor yn gweld eu tâl yn cynyddu i £9.90 yr awr o £9.60 a £9.79 yn y drefn honno.
Er fy mod, wrth gwrs, yn gobeithio y bydd y cynnydd hwn yn cael ei groesawu ar adeg o gostau byw cynyddol, mae hwn yn gam cyntaf ac yn bennaf i gydnabod cyfraniad sylweddol staff mewn rolau sy'n aml yn rheng flaen, yn rhan-amser, yn ymwneud yn uniongyrchol â dinasyddion ac wedi bod yn allweddol i ymateb y Cyngor yn ystod y pandemig. Bydd y cynnydd yn berthnasol i ychydig dros 650 o'n cydweithwyr, tua 90% ohonynt yn fenywod ac felly bydd y symudiad hefyd yn ein helpu i leihau ymhellach y bwlch cyflog rhwng y rhywiau yn y Cyngor. Mae cydweithwyr ym maes Adnoddau Dynol yn gweithio i weithredu'r cynnydd cyn gynted â phosibl a chysylltir yn uniongyrchol â phawb yr effeithir arnynt gyda rhagor o wybodaeth.
Roedd hwn yn un o nifer o gamau y cytunodd y Cabinet arnynt ddydd Iau er mwyn helpu ein cymunedau i ymdopi â'r cynnydd mewn costau byw. Cyn y cylch nesaf o Daliadau Cymorth Costau Byw sy'n dechrau'r wythnos nesaf, cytunwyd ar gynllun dewisol newydd a fydd yn arwain at roi £825,000 arall mewn grantiau i'r rhai na fyddent efallai wedi elwa o'r taliadau cychwynnol. Bydd hyn yn cynnwys y rhai sy'n derbyn eithriadau penodol i'r Dreth Gyngor, megis y rhai sy'n gadael gofal, unigolion â nam meddyliol difrifol neu anabledd a gofalwyr. Cytunwyd hefyd y bydd ein cynllun Rhyddhad yn ôl Disgresiwn y Dreth Gyngor presennol yn parhau, sy'n golygu y gall preswylwyr yn yr amgylchiadau mwyaf eithriadol heb fod unrhyw fai arnyn nhw gael cynnig cymorth ariannol i helpu gyda'u biliau.
Ar adeg pan fo llawer o bobl dan bwysau gwirioneddol roeddwn wrth fy modd yn derbyn e-bost yr wythnos hon gyda'r testun "Aelod Gwych o Staff". Roedd un o'n trigolion wedi cysylltu â mi i dynnu sylw at waith "yr anhygoel Cath Klee" gan ddweud iddi fod "yn gwbl anhygoel wrth ddatrys yr ymholiad gyda thaliadau gofal fy Mam". Aeth Kath yr ail filltir i helpu ac rwy’n cytuno’n llwyr â barn y preswylydd ein bod yn "ffodus iawn i gael aelod mor ymroddedig o staff ar eich tîm."
Unigolyn arall sydd wedi mynd uwchlaw’r gofyn i gefnogi'r rhai sy'n dibynnu arnom yw Neil Stokes yn ein tîm Gwasanaethau Adeiladau. Ar ôl iddynt gael eu haddysgu mewn mannau eraill yn y cyfnod cyn hanner tymor, gweithiodd Neil a llawer o'i gydweithwyr drwy benwythnos gŵyl y banc yr wythnos ddiwethaf i sicrhau y gallai disgyblion Ysgol Y Bont-faen yn y Bont-faen ddychwelyd i'w hamgylchedd cyfarwydd Ddydd Llun ac ymhell ar y blaen i’r amserlen. Gwaith gwych bawb!
Hoffwn hefyd longyfarch yr holl gydweithwyr hynny sy'n dychwelyd i'r gwaith yn Ysgol Uwchradd Whitmore yr wythnos hon ar yr adroddiad arolygu rhagorol a dderbyniwyd ychydig cyn hanner tymor. Roedd adroddiad Estyn yn llawn canmoliaeth, yn dweud bod "athroniaeth Ysgol Uwchradd Whitmore wedi'i seilio'n gadarn ar y 'bedair golofn' sy'n rhoi'r sail ar gyfer datblygu'r plentyn cyfan ac sy'n ffurfio 'Gwerthoedd Whitmore'. Mae'r athroniaeth hon yn cael ei hyrwyddo gan bron bob aelod o staff sy'n gweithio i sicrhau bod disgyblion yn cael eu gwerthfawrogi a bod rhywun yn gwrando arnynt, eu bod yn cael eu trin fel unigolion, ac yn cael addysgu cyson dda a chyfleoedd helaeth y tu allan i wersi." Yn yr adran “Llesiant ac agweddau at ddysgu”, dywed yr adroddiad: "Mae disgyblion yr Ysgol Uwchradd yn datblygu'n llwyddiannus yn ddinasyddion cyfrifol a gofalgar oherwydd yr ethos cryf a grëwyd gan 'Werthoedd Whitmore'. Mae staff yn modelu'r gwerthoedd hyn yn gyson yn eu hymwneud â disgyblion ac, o ganlyniad, mae lefel uchel
o barch ac ymddiriedaeth rhwng holl aelodau cymuned yr ysgol."
Dylai pawb yn yr ysgol sydd wedi cyfrannu at hyn deimlo'n falch iawn o'u cyflawniadau.
Fel y mae rhai ohonoch efallai wedi'i weld ar ein ffrydiau cyfryngau cymdeithasol mae hi’n Wythnos y Beic yr wythnos hon. Mae ein tîm Trafnidiaeth wedi trefnu amrywiaeth o weithgareddau ac roedd yn wych gweld Craig Hanley yn ein tîm Gorfodi yn newid o bedair olwyn i ddwy er mwyn ymgymryd â'i ddyletswyddau’r wythnos hon. Mae'r tîm wedi bod allan heddiw eto, yn ardal yn Ynys y Barri yn hyrwyddo teithio llesol i'n trigolion. Diolch i bawb sydd wedi gwneud yr wythnos yn llwyddiant.
Mae cynyddu cyfleoedd ar gyfer teithio llesol yn un o’r nifer o ffyrdd gennym o weithio tuag at sero net fel rhan o Brosiect Sero. Er mwyn helpu i olrhain ein gwaith yn y maes hwn yn well a rhoi cyfle i aelodau etholedig, rydym hefyd wedi ychwanegu adran newydd yn ddiweddar at ein templedi adroddiad pwyllgor a fydd yn dangos y goblygiadau ar gyfer newid yn yr hinsawdd a'r argyfwng natur. Bydd hyn yn sicrhau bod y Cyngor yn ystyried yr hyn y gall ei wneud yn wahanol wrth ddatblygu prosiectau a pholisïau - o'r deunyddiau a brynwn, i'r gwastraff a grëwn, a'r ynni a ddefnyddiwn – ar bob cyfle.
Os hoffech wybod mwy am Brosiect Sero neu unrhyw beth arall sy'n ymwneud â gwaith ein cyfarwyddiaethau newydd, Lleoedd ac Adnoddau Corfforaethol, yna mae cyfle o hyd i gofrestru yn y sesiynau Hawl i Holi sydd ar y gweill gyda Tom Bowring a Marcus Goldsworthy fydd yn cael eu cynnal y mis hwn.
Yn olaf, mae cyfle o hyd i chi gyflwyno'ch enwebiadau ar gyfer y Gwobrau Staff eleni. Mae'r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau, a oedd i fod heddiw, yn cael ei ymestyn i roi pythefnos arall i chi gyflwyno'ch enwebiadau. Mae'r niferoedd wedi bod yn codi'n gyson yn ystod y dyddiau diwethaf ac mae cyfanswm yr enwebiadau bellach yn fwy na 100 ond rydym am sicrhau bod pawb yn cael cyfle i wneud eu cyflwyniadau. Gyrrwch yr enwebiadau yna i mewn ac ewch i Staffnet a Staffnet+ am ddiweddariadau dros y pythefnos nesaf.
Diolch i chi i gyd, fel bob amser, am eich gwaith yr wythnos hon. Diolch yn fawr bawb.
Rob.