Eich cyfle olaf i enwebu ar gyfer Gwobrau'r Staff!

Hon yw’r wythnos olaf i enwebu ar gyfer Gwobrau’r Staff.

Mae dwsinau o enwebiadau eisoes wedi'u cyflwyno ar draws y categorïau a bydd enwebiadau'n cau ddydd Gwener, 10 Mehefin.

Nod y categorïau eleni yw tynnu sylw at waith gwych cydweithwyr dros y blynyddoedd diwethaf, yn enwedig fel rhan o'r ymateb i'r coronafeirws.

Yn ystod y pandemig, aeth llawer o dimau ac unigolion y Cyngor y tu hwnt i’r hyn oedd i’w ddisgwyl i gefnogi trigolion a'r gymuned.

Mae categorïau newydd fel gwobr Prosiect Sero a Dathlu Amrywiaeth ac Ymgysylltu hefyd yn cydnabod prosiectau sydd yn flaenllaw ar agenda'r Cyngor.

Mae enwebu cydweithiwr yn ffordd wych iddynt gael y gydnabyddiaeth y maent yn ei haeddu. 

Bydd y seremoni ei hun hefyd yn gyfle i ddod at eich gilydd gyda'ch tîm a dal i fyny â chydweithwyr. Rydym yn falch o gyhoeddi y bydd 250 o docynnau ar gael eleni am bris hyd yn oed yn is o £10.

Bydd staff hefyd yn cael blaenoriaeth wrth logi nifer o ystafelloedd am bris llai yng Ngwesty'r Fro. Bydd rhagor o fanylion am sut i archebu yn cael eu rhyddhau'n fuan. 

Cyflwynwch eich enwebiadau cyn y dyddiad cau!

Os oes angen cymorth arnoch i gyflwyno'ch enwebiad, cysylltwch â hawdavies@valeofglamorgan.gov.uk.