Staffnet+ >
Un Wythnos yn Weddill ar gyfer Syniadau Hac Gofal Cymdeithasol
Un Wythnos yn Weddill ar gyfer Syniadau Hac Gofal Cymdeithasol
1 Mehefin 2022
Mae'r Hac Gofal Cymdeithasol Cyntaf erioed yng Nghymru yn prysur agosáu ac mae Canolfan Gwyddorau Bywyd Cymru yn chwilio am bobl sy'n gweithio yn y sector gofal cymdeithasol i ymuno.
Y nod yw dod â'r sector ynghyd i ddatrys heriau a wynebir gan gydweithwyr ar draws gofal cymdeithasol, y byd academaidd a diwydiant, gan ganolbwyntio ar rai o'r prif faterion sydd wedi wynebu gofal cymdeithasol dros y blynyddoedd, gan gynnwys dementia, byw'n annibynnol, darparu gofal a mwy.
Mae Canolfan Gwyddorau Bywyd Cymru yn chwilio am gydweithwyr i gyflwyno syniad yn null 'Dragon's Den' sy'n canolbwyntio ar her yn y diwydiant a syniadau ar sut i'w datrys. Gellir cyflwyno'r rhain ar-lein hyd at 5 Mehefin 2022.
Yn dilyn hyn, cynhelir digwyddiad ar-lein ddydd Mercher 8 Mehefin rhwng 1pm a 5pm. Anogir pawb sydd â diddordeb i gofrestru ar gyfer y digwyddiad hwn.
Os byddwch yn llwyddiannus, byddwch yn cael mynediad at arbenigwyr arloesi a chyngor ar sut i wneud i atebion posibl weithio a bod yn rhan o'r cyfle i sicrhau hyd at £20,000 o gyllid gan Lywodraeth Cymru.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i dudalen we Hac Gofal Cymdeithasol.
